
Ni’n ymweld â chi
Ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam mae ein drws ar agor trwy'r amser ichi ddod i ymweld ond rydym yn deall ei bod yn haws inni ddod i'ch gweld chi weithiau.
- Pam mynd i'r brifysgol?
- Yr hyn ydd gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam i'w gynnig
- Dewis y cwrs a'r brifysgol iawn
- Sut i wneud cais i brifysgol
- Yr hyn mae tiwtoriaid derbyn mewn prifysgolion yn chwilio amdano – y rhaid a'r paid
- Ysgrifennu datganiad personol effeithiol - sut i werthu'ch hun
- Cyfweliadau Prifysgol – sut i ymbaratoi
- O'r ysgol i'r brifysgol – safbwynt y myfyriwr
- Cyllid myfyrwyr – ysgoloriaethau, bwrsarïau a ffynonellau cyllid eraill
- Cyflogaeth – diwallu dyheadau gyrfaol
Gall ein hacademyddion hefyd ymweld â chi i gyflwyno dosbarthiadau meistr i ddarpar fyfyrwyr ymhob maes gan gynnwys busnes, celf a dylunio, seicoleg a pheirianneg. Mae gennym lysgenhadon myfyrwyr hefyd, sy'n astudio ystod o wahanol bynciau, sy'n gallu rhannu profiadau uniongyrchol am fywyd prifysgol a dweud sut beth yw bod yn y brifysgol ac ateb unrhyw gwestiynau.
Ond ym Mhrifysgol Glyndŵr rydym yn deall bod pob ysgol a'u myfyrwyr yn wahanol felly rydym yn gallu teilwra ein gwasanaeth i gwrdd â'ch anghenion.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Joy Brereton ar 01978 293069 neu ebostiwch recruitment@glyndwr.ac.uk i weld sut allwn ni helpu.