Edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau israddedig i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig

WGU Logo
WGU ten years
Owain Glyndŵr

Owain Glyndŵr

Mae enw Prifysgol Glyndŵr wedi’i ysbrydoli gan yr arwr Cymreig, Owain Glyndŵr.

Glyndŵr y brifysgol

Ysbrydoli menter

Mae Prifysgol Glyndŵr yn lle bywiog a chyfeillgar lle rhoddir sylw personol i ddysg a dyfodol pob myfyriwr/wraig.

Mae’r cyfleusterau yn rhagorol, fel y gellid disgwyl gan brifysgol sy’n gwerthfawrogi ysbryd menter ac yn rhoi cyflogadwyedd wrth galon popeth yr ydym yn ei wneud. Mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i ddarparu cyflogwyr gyda’r union beth y maent yn chwilio amdano, ac wedi’u creu gyda’u mewnbwn uniongyrchol hwy. Mae cefnogaeth, wrth eich helpu i gynllunio eich gyrfa a’ch bywyd tu allan i fyd gwaith, bob amser wrth law trwy ein Tîm Gyrfaoedd, ein cynghorwyr a’n cwnselwyr arbenigol.

Rydym yn falch o enwi ein prifysgol ar ôl gwˆ r oedd yn coleddu dysg, yn caru ei wlad, yn cofleidio golwg ryngwladol, a bob amser yn arddangos agwedd ysbrydoledig a mentrus at fywyd. Mae ei ysbryd wrth galon Prifysgol Glyndŵr. Ein hamcan yw gwneud Glyndŵr yn brifysgol a fydd yn rhoi lle i unrhyw un sydd yn gysylltiedig â Chymru ymfalchïo.

Glyndŵr y dyn

Gellid dadlau mai Owain Glyndŵr yw’r Cymro enwocaf erioed. Yn gymeriad mentrus a charismatig, ei freuddwyd oedd gweld Cymru gyda’I llywodraeth a’i phrifysgolion ei hun. Hyd heddiw mae’n dal I gael ei ystyried fel symbol o obaith a dysg.

Wedi’i eni ger Wrecsam oddeutu 1355, roedd Glyndŵr yn uchelwr oedd yn ddisgynnydd o nifer o dai brenhinol Cymreig. Fel dyn lleol, roedd ganddo gysylltiadau cadarn â Gogledd Ddwyrain Cymru.

Glyndŵr yr ysgolhaig

Roedd Owain Glyndŵr yn ddyn hyddysg iawn, a astudiodd y gyfraith yn Ysbyty’r Frawdlys yn Llundain. Yr oedd yn rhugl mewn pedair iaith, a bu’n dadlau dros greu Prifysgol yng Ngogledd a De Cymru.

Glyndŵr saer y genedl

Yn ffyrnig o falch o’i wreiddiau Cymreig, fe wnaeth Glyndŵr uno Cymru ac ymroi ei fywyd i greu cenedl Ewropeaidd effeithiol a llewyrchus. Yn ŵr o flaen ei amser, roedd yn credo yn y pedair colofn y mae cenedl fodern yn seiliedig arni: senedd, barnwriaeth annibynnol, rhyddid mynegiant ac ymreolaeth prifysgolion.

Yn 1404, galwodd Glyndŵr senedd o gynrychiolwyr Cymreig ynghyd o bob cwr o Gymru. Adnewyddodd y system gyfreithiol yng Nghymru ac adferodd gyfreithiau cyfundrefnol Hywel Dda.

Glyndŵr y milwr

Yn strategydd medrus ac yn rhyfelwr ffyrnig, brwydrodd Glyndŵr yn y fyddin Seisnig gan gefnogi Brenin Lloegr, Richard II. Pan gamfeddianwyd Richard gan Henry Bolingbroke (y darpar Harri IV), arweiniodd Glyndŵr ei luoedd yn erbyn y camfeddiannwr gan amddiffyn ei famwlad. Yn nannedd cryn anfanteision, arweiniodd ei gyd-Gymry i’w buddugoliaeth fwyaf ym Mrwydr Bryn Glas yn 1402.

Glyndŵr y cydwladolwr

Roedd Glyndŵr yn falch o’i Gymreictod, ond yn sylweddoli fod angen i Gymru edrych tu hwnt i’w ffiniau ei hun, yn enwedig wrth fynd ar drywydd dysg ac ysgolheictod. Fel cydwladolwr, ffurfiodd berthnasau arwyddocaol gyda gwledydd eraill, Ffrainc yn arbennig.

Glyndŵr y ffigwr chwedlonol

Mae Glyndŵr yn dal i fod yn ffigwr amlwg iawn yn niwylliant Cymru, sydd wedi’i ganmol ar air ac ar gân. Yn nrama Shakespeare, Henry IV Part 1, mae cymeriad o’r enw Owen Glendower yn ymddangos tra, yn 2007, rhyddhaodd y Manic Street Preachers gân am yr arwr Cymreig o’r enw ‘1404’. Mewn Pôl Milfwydd o 100 o bobl ryngwladol ddylanwadol, daeth Owain Glyndŵr yn seithfed, yn uwch na Syr Isaac Newton ac Abraham Lincoln.

Darganfod mwy

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr, beth am ddod i un o’n dyddiau agored?

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â SID (Desg Gwybodaeth Myfyrwyr):

Top