GDPR Cookie Consent by Free Privacy Policy

Dydy hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais - Edrychwch ar ein cyrsiau ar gyfer mynediad mis Medi 2019.

WGU Logo
WGU ten years

Datblygwyr gemau cyfrifiadurol arloesol yn ennill tair gwobr gan ddiwydiant y DU

Mae cwrs datblygu gemau arloesol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi arwain ei staff a’i gynfyfyrwyr at ennill tair gwobr genedlaethol.

Yng Ngwobrau Cronfa Gemau’r DU yn Dundee neithiwr, gwnaeth yr Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadura, Richard Hebblewhite, ennill Cyfrannwr Cymunedol y flwyddyn ar ôl cael ei enwebu am ei gyfraniad eithriadol at ddatblygu’r diwydiant gemau lleol a rhanbarthol.

Gwnaeth Lolfa Fenter arloesol ei dîm datblygu gemau ennill gwobr Hwb Tranzfuser Lleol y Flwyddyn. Mae’r Lolfa, sydd wedi’i lleoli yn y brifysgol, yn cynnig cymorth i’r myfyrwyr presennol a graddedigion trwy gydol y broses o ddatblygu eu stiwdios datblygu gemau eu hunain – yn ogystal ag arweiniad a mentora arbenigol.

Yn olaf, gwnaeth Static Shell Studios, stiwdio gemau yn cynnwys cynfyfyrwyr Glyndŵr, ennill gwobr Tranzfuser – sydd wedi’i hanelu at stiwdios sydd wedi bod trwy raglen datblygu gemau Tranzfuser ac sydd wedi mynd ymlaen i ryddhau eu gemau eu hunain.

Rich Hebblewhite Games Win Alumni

Dywedodd Richard: “Mae’n deimlad gwych i’r gwaith rydym ni’n ei wneud yma ym Mhrifysgol Glyndŵr gael ei gydnabod gan y diwydiant – rydw i wedi deffro’r bore ‘ma yn dal i wenu.

“Rydw i wrth fy modd o weld Static Shell yn ennill eu gwobr – maen nhw eisoes yn gwneud eu marc o ran datblygu gemau a gall y newyddion yma ond ychwanegu at eu henw da haeddiannol.

"Rydw i hefyd wrth fy modd bod y gwaith rydym ni’n ei wneud yn y brifysgol i helpu timau i ddatblygu eu stiwdios wedi’i gydnabod – ac wrth gwrs, rydw i hefyd yn falch iawn o fod wedi ennill gwobr fy hun!”

Gallwch gael mwy o wybodaeth am radd BSc (Hons) Dylunio Gemau Cyfrifiadurol a Mentergarwch.

Top