Edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau israddedig i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig

WGU Logo
WGU ten years

Darlithydd o Brifysgol Glyndŵr yn gwneud argraff yng ngŵyl gelf comig ryngwladol

llun 1

Hydref 26, 2016

 

Mae comic perfformiad a marathon comig 24 awr o dan arweiniad ddarlithydd o Brifysgol Glyndŵr ymhlith uchafbwyntiau gŵyl gelf comig rhyngwladol.

Chwaraeodd Dan Berry, arweinydd rhaglen darlunio, nofelau graffig a chyhoeddi i blant yn Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru, ran ganolog yn llwyddiant Gŵyl Gelf Comic Rhyngwladol y Llynnoedd eleni yn Kendal.

Roedd Dan yn guradur a chynhyrchydd a chymerodd rhan yn y marathon comic ar ddydd Iau 15 Hydref. Roedd yn un o chwe artist i gynhyrchu llyfr comig 24 tudalen mewn 24 awr.

Argraffwyd y llyfr yn syth ar ôl y digwyddiad, ac aeth ar werth drwy gydol yr ŵyl.

Cynhyrchwyd comic perfformiad Dan, The Three Rooms in Valerie’s Head gyda'r awdur David Gaffney a'r cerddor Sara Lowes.

Fe'i comisiynwyd gan yr ŵyl a chyfunodd delweddau gyda darlleniad dramatig a cherddoriaeth fyw. Cafwyd ei berfformiad cyntaf ar ddydd Sadwrn Hydref 17. A daw’r perfformiad ar daith yn ystod 2016.

Meddai Dan: "Mae marathon comig 24 awr wedi bod yn rhan o'r digwyddiad am ddwy flynedd ac aeth popeth yn hynod o dda. Daw’r artistiaid o bob rhan o'r DU a daeth cyfyngiad amser â'r gorau allan o ddoniau creadigol pawb.

"Mae'r ŵyl gelf comig yn ddigwyddiad arbennig iawn i unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r diwydiant neu dim ond brwdfrydedd dros y genre ac mae'n wych i fod yn rhan ohono."

Mae'r ŵyl yn cynnwys cymysgedd o arddangosfeydd, gweithdai, sgyrsiau a ffilmiau sy'n cynnwys rhai o artistiaid comig mwyaf blaenllaw'r byd.

testun 2

Ymhlith y gwesteion oedd Charlie Adlard, cyd-creawdwr The Walking Dead, Steven Appleby, crëwr stribedi comig ar gyfer papurau newydd gan gynnwys The Times, The Guardian a The Sunday Telegraph.

Hefyd yn yr ŵyl oedd Darwyn Cooke, a gynhyrchodd Batman Beyond ffilm byr animeiddiedig i ddathlu pen-blwydd Batman yn 75 yn 2014, a chartwnydd The Guardian Steve Bell.

Y pum cyfranogwr eraill yn y marathon comig oedd John Allison, Jonathan Edwards, Jade Sarson, Richard T Short a Emma Vieceli.

Gwelir delweddau o holl waith yr artistiaid ar blog comic marathon 24 awr yn https://24hcm.wordpress.com

I gael rhagor o wybodaeth ewch http://www.comicartfestival.com

Top