Edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau israddedig i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig

WGU Logo
WGU ten years

Arddangosfa newydd a ysbrydolwyd gan Alan Turing yn archwilio'r cysylltiad rhwng celf a thechnoleg

llun

Medi 9, 2015

 

Mae arddangosfa a ysbrydolwyd gan y gwyddonydd cyfrifiadurol chwyldroadol Alan Turing yn archwilio sut mae cysylltiad rhwng celf a thechnoleg yn agosach nag erioed o'r blaen yn y byd sydd ohoni.

Agorwyd Carbon yn cwrdd â Silicon, ym Mhrifysgol Glyndŵr ddydd Llun 7 Medi, ac yn cynnwys gwaith gan ymchwilwyr a datblygwyr o fyd cyfrifiadura y rhyngrwyd, peirianneg a chelf a dylunio.

Mae'r arddangosfa yn rhan o’r Chweched Cynhadledd Ryngwladol ar Dechnolegau a Chymwysiadau Rhyngrwyd (ITA) a gynhelir yn y Brifysgol.

Mae arddangosfa’n cynnwys ystod o arferion gwaith gan gynnwys gosodiadau fideo, ffilm, gwneud printiau, paentio, gemwaith a gosodiadau sain.

Meddai curadur yr Arddangosfa Dr Susan Liggett, darllenydd mewn celf a dylunio ym Mhrifysgol Glyndŵr: "Daw'r ysbrydoliaeth ar gyfer teitl yr arddangosfa o waith Alan Turing, a'i archwiliad i mewn i ddeallusrwydd artiffisial yn erbyn seicoleg wybyddol.

"Mae’r gair Carbon yn y teitl yn cyfeirio at y deunyddiau corfforol mae artistiaid yn defnyddio i greu eu gwaith. A defnyddir Silicon i adlewyrchu'r cydrannau a defnyddir mewn llawer o eitemau technoleg, er enghraifft, cyfrifiaduron a ffonau symudol.

"Mae'r arddangosfa yn dangos bod y dirwedd wedi newid ym myd celf dros y 50 mlynedd diwethaf sydd wedi gweld celf yn uno â gwyddoniaeth a thechnoleg."

Mae gwaith yr artistiaid canlynol yn ymddangos yn Carbon yn cwrdd Silicon: Cerys Alonso, Andrew Bracey, Steve Carrick, William Cerdyn, Simon Hall, Lesley Halliwell, Rory Hickford, Paul Jones, Coryn Smethurst, Andrew Lowe-Smith, Ian McArthur, Guy Mayman , Annie Morrad, Susan Liggett, John McClenaghen, Estelle Thompson, Jill Townsely, Tracy Piper-Wright a Jonathan Weinel.

Roedd llawer o'r artistiaid yn bresennol yn y lansiad preifat nos Lun Medi 7. Mae'r arddangosfa yn rhedeg tan ddydd Gwener 11 Medi.

Cynhelir cynhadledd ITA bob yn ail flwyddyn yn Wrecsam ers 2005 ac eleni bydd yn denu hyd at 100 o gynadleddwyr o fwy na 30 o wledydd.

Mae’n cynnwys ystod o siaradwyr allweddol, gweithdai, sesiynau tiwtorial a digwyddiadau ymylol, ac yn dod ag ymchwilwyr o'r byd academaidd ynghyd â datblygwyr diwydiannol o’r cyfryngau digidol, peirianneg a chyfrifiadureg.

I gael mwy o wybodaeth am yr arddangosfa ac ITA 2015 ewch i http://www.glyndwr.ac.uk/OrielSycharthGallery/Whatson/FutureExhibitions/ITAExhi

Top