Edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau israddedig i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig

WGU Logo
WGU ten years

Myfyriwr Newyddiaduraeth yn cymysgu gyda sêr tennis ar leoliad gwaith

llunTestun

Rhagfyr 15, 2015

Cafodd Jamie Davies myfyriwr Darlledu, Newyddiaduraeth a Chyfryngau Chyfathrebu y cyfle i gymysgu gyda rhai o chwedlau tennis y byd fel rhan o leoliad profiad gwaith.

Treuliodd Jamie, yn y llun yn sylwebu, wythnos yn gweithio gyda thîm cyfathrebu Cymdeithas Gweithwyr Proffesiynol Tennis (yr ATP) oedd yn sylwebu ar Daith y Pencampwyr yn Neuadd y Royal Albert yn Llundain.

Roedd ei wythnos yno yn cynnwys ysgrifennu adroddiadau ar gyfer wefan yr ATP ar y gemau rhwng John McEnroe a Mats Wilander a rhwng Tim Henman a James Blake.

Yn ogystal helpodd i drefnu cynadleddau i'r wasg ar gyfer y sêr tennis a mynd â nhw hyd yn oed ar y cwrt ar ddechrau gemau.

"Roedd yn wythnos ffantastig, yn un o'r profiadau gorau erioed ac yn rhywbeth y byddaf yn ei drysori am weddill fy mywyd," meddai Jamie, 21 oed.

Yn ystod yr wythnos, treuliodd amser yn sgwrsio gyda'r sêr tennis gan gynnwys John McEnroe sy'n ddisgrifiodd fel "doniol" ac yn astud iawn yn ogystal â Tim Henman a oedd "mewn gwirionedd yn foi dymunol a’i draed ar y ddaear ".

Cafodd Jamie y cyfle am y lleoliad ar ôl dilyn i fyny cysylltiadau gyda'r BBC, a roddodd mewn cysylltiad â’r sylwebydd tenis, David Law.

"Roedd yn achos o wneud y mwyaf o bob cyswllt a dilyn i fyny bob posibilrwydd. Y canlyniad oedd wythnos ffantastig ymhlith rhai o'r enwau mwyaf mewn tennis proffesiynol ledled y byd - anhygoel!” dwedodd ef.

Gall adroddiadau gêm Jamie i'w gweld ar wefan ATP ar y dolenni isod.

http://www.atpchampionstour.com/news/tennis/2015/london-thursday-mcenroe-beats-wilander.aspx

http://www.atpchampionstour.com/news/tennis/2015/london-wednesday-henman-battles-to-opening-win.aspx

Top