Edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau israddedig i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig

WGU Logo
WGU ten years

Myfyriwr yn chwilio am ferched o’r Ail Ryfel Byd

Hydref 21, 2015

testun

Mae myfyriwr yn chwilio am straeon menywod Cymru a chwaraeodd ran yn yr Ail Ryfel Byd.

Mae Lauren Jones, sydd ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer gradd mewn Hanes ym Mhrifysgol Glyndŵr, yn awyddus i glywed gan ferched oedd yn gweithio mewn ffatrïoedd arfau rhyfel, yn enwedig ym Marchwiel, yn ogystal â chyn-ferched tir, aelodau o'r gwasanaethau GTC, nyrsys, gwirfoddolwyr WRVS ac unrhyw un arall a brofodd bywyd yng ngogledd ddwyrain Cymru 1939-1945.

Yn ôl Lauren (yn y llun), o Bacup yn Swydd Gaerhirfryn, cafodd rhan merched yn hanes Prydain ei "anghofio i raddau helaeth" ac mae'n awyddus i gyfweld menywod y mae eu hysbryd wedi helpu ennill buddugoliaeth fwy na 70 mlynedd yn ôl.

Bydd y canlyniadau yn ffurfio rhan o'i thraethawd hir trydedd flwyddyn, ond mae hi’r un mor awyddus i roi sylw at lwyddiannau menywod yn y rhyfel.

"Roedd bywydau llawer ohonynt mewn perygl, gan gynnwys y rhai yng Ngogledd Cymru, ond i raddau helaeth fe cawson nhw eu hanghofio fel y rhan fwyaf o fenywod mewn hanes," meddai.

"Yn amlwg roedd yna lawer o ddynion dewr ac arwrol yn ymladd yn y rhyfel, ond fe brofodd merched bethau ofnadwy yn ogystal, fel gweithio oriau hir mewn ffatrïoedd arfau rhyfel ac yn rhoi eu hunain mewn perygl o gael eu bomio wrth lywio ymosodiadau ar awyrennau gan ddynion yr ac-ac.

"Mewn rhai ardaloedd roedd menywod yn ymarferol yn rhedeg pethau, ond yn anaml dan ni’n clywed am hyn."

Ychwanegodd Lauren: "Rwy'n edrych yn benodol am ferched o ogledd ddwyrain Cymru gyda stori i'w hadrodd.

"Rwyf wedi bod mewn lyfrgelloedd ac wedi siarad â nifer o sefydliadau, ond mae wedi bod yn anodd dod o hyd i ferched o'r cyfnod, yn enwedig o Wasanaeth Gwirfoddol y Merched - byddwn wrth fy modd i glywed oddi wrthynt.

"Byddaf yn gofyn pa swyddi y cymeron a beth oedd y rheswm am hynny; beth wnaethant ar ôl a chyn y rhyfel, sut mae hwn wedi effeithio ar eu cyflogaeth yn ystod y cyfnod hwnnw a sut mae pethau wedi newid ar eu cyfer.

"Rwy'n credu mewn hawliau cyfartal i bawb, rwy'n awyddus iawn i gasglu mwy o wybodaeth am grŵp sydd yn f’ nhyb i heb gynrychiolaeth deg yn hanes Prydain."

Yn ôl adroddiadau yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, effaith caniatáu menywod i gymryd swyddi nad oedd cyn hynny ar gael iddynt oedd i godi eu hunan-barch trwy roi llwyfan iddynt gyflawni eu llawn botensial a gwneud eu rhan.

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd gan gymdeithas syniadau penodol ar gyfer y swyddi y mae merched a dynion yn gallu gwneud. Pan ddechreuodd fenywod ymuno â gweithlu diwydiant arfau a dominyddwyd cyn hynny gan ddynion, dechreuodd y gwahaniad rhwng merched a dynion leihau. Yn ôl arolwg gan yr Weinyddiaeth Lafur aeth canran menywod mewn swydd diwydiannol o 19.75% i 27% rhwng 1938 a 1945.

Fodd bynnag, roedd yn anodd iawn i fenywod dreulio eu dyddiau mewn ffatrïoedd, ac yna dod adref at eu tasgau a gofal yn y cartref, ac o ganlyniad, gadawodd llawer eu swyddi yn y gweithle.

Dywedodd Dr Kathryn Ellis, darlithydd mewn Hanes ym Mhrifysgol Glyndŵr a'r goruchwyliwr traethawd hir Lauren, bod y dewis o thema yn adlewyrchiad o amrywiaeth eang o bynciau a gwmpesir gan fyfyrwyr ar y gradd poblogaidd, a daeth ar frig y tabl yng Nghymru o ran bodlonrwydd myfyrwyr, yn ôl y Complete University Guide.

"Mae prosiect Lauren yn un hynod ddiddorol a dylai wneud cyfraniad gwirioneddol i'r maes hwn o astudio sydd wedi cael ei hesgeuluso," ychwanegodd Dr Ellis.

"Mae ein myfyrwyr yn aml yn canolbwyntio ar thema rhanbarthol, ac mae prosiectau fel hyn yn help mawr i annog gwell dealltwriaeth o ddatblygiadau cymdeithasol-ddiwylliannol."

I gael rhagor o wybodaeth am Hanes ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam, ewch i www.glyndwr.ac.uk

Top