Edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau israddedig i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig - dewch i'n diwrnod agored nesaf i ddarganfod mwy.

WGU Logo
WGU ten years

Academydd o Brifysgol Glyndŵr mewn ymgais i achub Strydoedd Cymreig hanesyddol Lerpwl

lerpwl llun

Lluniau: Strydoedd Cymraeg Lerpwl (uchod) a Gareth Carr (gwaelod ar y dde)

Mehefin 29, 2015

Mae academydd sydd wedi treulio bron i ddegawd yn astudio'r etifeddiaeth a adawyd gan bensaer Cymru ar dirlun Lerpwl yn chwarae rhan allweddol yn yr ymgyrch i atal cannoedd o gartrefi hanesyddol yn y ddinas rhag cael eu dymchwel.

Mae'r Uchel Lys ar fin dyfarnu’n terfynol ynglŷn â hawl dinas Lerpwl i ddymchwel Strydoedd Cymraeg Lerpwl, a adeiladwyd yn y 19eg ganrif gan y pensaer Richard Owens, i wneud lle i ail-ddatblygu.

Mae Gareth Carr, o Ysgol yr Amgylchedd Adeiledig ym Mhrifysgol Glyndŵr, yn cefnogi'r ymgyrch i warchod yr hyn mae'n ei ddisgrifio fel "cyfraniad sylweddol" y wnaeth Cymry at ddatblygu Lerpwl.

Gofynnodd Achub Treftadaeth Prydain, sydd yn ymladd i gadw'r stadau Toxteth lle treuliodd Ringo Starr ran o'i blentyndod, iddo roi tystiolaeth mewn ymchwiliad cyhoeddus i'r mater.

Sefydlwyd yr ymchwiliad yn dilyn penderfyniad Eric Pickles, cyn Ysgrifennydd Gwladol dros Cymunedau i wrthdroi gorchymyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio y gellir dymchwel y cartrefi.

Mae Cyngor Ddinas Lerpwl a’r grŵp datblygu Plus Dane yn pwyso am y datblygiad newydd, yn hytrach nag addasu a moderneiddio'r tai presennol.

Lerpwl testun a llun

Yn ddiweddar cyflwynodd Gareth, sy’n darlithydd ym Mhrifysgol Glyndŵr a phensaer cofrestredig, ei draethawd PhD o'r enw The Speculative Housing of Richard Owens 1863-1891.'

Meddai: "Does dim amheuaeth bod chwaraeodd Richard Owens rhan bwysig yn natblygiad Lerpwl yn y 19eg ganrif.

"Roedd datblygiad y strydoedd hyn yn gynllun soffistigedig ar gyfer tai gweithwyr ac maent o werth hanesyddol mawr yn hanes datblygiad trefol y ddinas.

"Roedd campau Richard Owen yn rhyfeddol. Yn wreiddiol o Sir Gaernarfon, cyrhaeddodd yn Lerpwl yn y 1850au gyda dim ond ei offer saer. Ond ar ôl astudio gyda'r nos yn Sefydliad Mecanyddol Lerpwl, fe sefydlodd ei ymarfer pensaernïol ei hun yn 1862 yn ardal Everton o’r ddinas.

"Erbyn 1891 roedd wedi gosod mwy o dir yn Lerpwl nag unrhyw pensaer arall o'r cyfnod hwnnw a roedd yn ddyn cyfoethog erbyn ei farwolaeth yn 1891, cymaint roedd ei lwyddiant.

"Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cydnabod pwysigrwydd y Strydoedd Gymraeg yng nghyd-destun datblygiad hanesyddol Lerpwl a byddai'n golled fawr i dreftadaeth y ddinas pe bai’r strydoedd yn awr yn cael eu dymchwel."

Mae'r strydoedd sy'n bodoli eisoes yn cynnwys enwau fel Rhiwlas a Madryn, sy’n atgof o’r cysylltiad Cymreig hir gyda Lerpwl.

"Roeddwn yn fyfyriwr pensaernïol yn Lerpwl pan glywais i am Richard Owens am y tro cyntaf a dwi wedi dwli ar ei waith byth ers hynny," ychwanegodd Gareth.

"Mae'r strydoedd Cymreig yn un o'r atgofion sydd yma o hyd o gyfraniad Cymru i ddatblygiad Lerpwl ac yn ddi-gwestiwn yn werth ei hachub."

Top