Prifysgol Glyndŵr yn arwyddo cytundeb gyda'r FSB

Llun: (o'r chwith) Shaun Roberts, Cadeirydd Cangen Wrecsam a Chaer o Ffederasiwn y Busnesau Bach, yn arwyddo Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth gyda'r Athro Graham Upton, Is-Ganghellor Dros-Dro Prifysgol Glyndŵr.
Mai 27, 2015
Mae Prifysgol Glyndŵr wedi llofnodi cytundeb newydd gyda Ffederasiwn y Busnesau Bach sy'n ymestyn ei ymrwymiad i gefnogi miloedd o fusnesau bach yng Ngogledd Cymru.
Mae'r Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth gyda Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) yn cadarnhau lle y Brifysgol fel pwerdy ar gyfer ffyniant economi'r rhanbarth.
Bydd y Brifysgol yn defnyddio ei rhwydwaith o ganolfannau yn Wrecsam, Llanelwy a Brychdyn i gefnogi busnesau drwy arbenigedd academaidd, prosiectau ymchwil, gwasanaethau ymgynghori a fforymau rhwydweithio.
Arwyddodd yr Athro Graham Upton, Is-Ganghellor Dros Dro’r Brifysgol, y Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth gyda Shaun Roberts, Cadeirydd Cangen Wrecsam a Chaer o Ffederasiwn y Busnesau Bach, mewn Fforwm Cyswllt Diwydiant ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Meddai’r Athro Upton: "Ffederasiwn y Busnesau Bach yw llais miloedd o fusnesau bach ac rydym yn falch o fod yn gweithio gyda nhw.
"Mae'r rhanbarth yn gartref i lawer o sefydliadau creadigol sy'n rhan fach o'r economi yn gyffredinol ond sy’n gwneud cyfraniad enfawr. Mae'n wych i fod yn rhan o hynny, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n gilydd i helpu Gogledd Cymru wireddu ei photensial economaidd. "
Mae Shaun, sydd â gradd o Brifysgol Glyndŵr, yn rheolwr gyfarwyddwr Creative Catalysts, cwmni o ddatblygwyr gwe o Wrecsam, a sefydlwyd ganddo bedair blynedd yn ôl pan oedd yn 19 oed.
Ers dod yn gadeirydd cangen Wrecsam a Chaer o’r FSB mae wedi ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o faterion sy'n wynebu busnesau bach a chanolig ac i adeiladu ar y berthynas rhwng sefydliadau a'r FSB.
Trwy ddod â Glyndŵr a'r FSB at ei gilydd mae'n gobeithio i gael y gefnogaeth sydd ei angen arno i sicrhau bod busnesau lleol yn ffynnu.
Meddai Shaun: "Mae gan lawer o'n haelodau neu eu gweithwyr gysylltiadau â’r Brifysgol yn barod trwy addysg a hyfforddiant, ac, fel un o raddedigion Glyndŵr fy hun, rwy'n brwdfrydig am y rôl sydd ganddi i'w chwarae i gefnogi busnesau bach.
"Mae ganddi gronfa anferth o adnoddau a fyddai fel arall yn tu allan o gyrraedd perchnogion busnesau bach.
"Bydd y memorandwm newydd yn helpu'r Brifysgol i gadw mewn cysylltiad â'r gymuned o fusnesau bach a'i hanghenion ac i ni berchnogion busnesau bach, mae'n gyfle i archwilio sut y gall y Brifysgol yn ein helpu i dyfu."
Mae'r Fforwm Cyswllt Diwydiant hefyd yn cynnwys sgyrsiau gan bennaeth gwyddorau cymhwysol, cyfrifiadureg a pheirianneg Prifysgol Glyndŵr Phil Storrow, darlithydd Olivier Durieux am Rasio Glyndŵr a chyflwyniad gan Paul Morgan, arbenigwr datblygu sector ar gyfer y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnolegau Gweithgynhyrchu (SEMTA).
Bydd Sheldon - robot a ddefnyddir i addysgu myfyrwyr a phlant ysgol gynradd am wyddoniaeth gyfrifiadurol - hefyd yn gwneud ymddangosiad fel rhan o gyflwyniad gan Dr Nigel Houlden, uwch ddarlithydd mewn cyfrifiadureg.
Meddai Kim Dimmick, Rheolwr Datblygu Busnes a Phartneriaethau Diwydiannol,: "Mae'r Fforwm Cyswllt Diwydiant wedi bod yn rhedeg am 18 mis, yn bennaf ar gyfer y cwmnïau hynny sydd wedi gweithio agos gyda Phrifysgol Glyndŵr dros y blynyddoedd.
"Er bod y fforwm yn helpu i ddatblygu’r cysylltiadau hynny sydd gennym yn barod, mae hefyd wedi'i gynllunio i adeiladu cydweithrediadau newydd. Yn ogystal â dangos yr hyn y gall y Brifysgol ei gynnig i ddiwydiant mae hefyd yn amlinellu cyfleoedd sy'n bodoli ar gyfer cydweithio er budd pawb."
Os ydych yn dymuno bod yn rhan o Fforwm Cyswllt Diwydiant cysylltwch â k.dimmick@glyndwr.ac.uk