Edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau israddedig i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig

WGU Logo
WGU ten years

Gwyddonwyr yn gorffen caboli drychau ar gyfer telesgop £900m

Mehefin 19, 2015

ESO testun

Llun: Tîm Canolfan OpTIC gyda Marc Cayrel o Arsyllfa Ddeheuol Ewrop (ESO)

Mae rhai o wyddonwyr gorau’r byd wedi gorffen caboli drychau prototeip ar gyfer telesgop mwyaf y byd.

Cafodd y tîm yng Nghanolfan OpTIC Prifysgol Glyndŵr yn Llanelwy ei ddewis yn 2011 gan yr Arsyllfa Ddeheuol Ewrop (ESO) i baratoi segmentau ar gyfer y Telesgop Ewropeaidd-Eithriadol Mawr (E-ELT) a fydd yn costio £900m.

Am bedair blynedd mae’r tîm wedi bod yn brysur yn caboli cyfres o ddrychau i lai na 7.5 nanometr, sef maint modiwl haemoglobin, yn cyflymu’r proses bob gam wrth baratoi ar gyfer gweithgynhyrchu.

Wrth dalu teyrnged i’r tîm yn safle  gwyddoniaeth a thechnoleg Sir Ddinbych dywedodd arweinydd y prosiect Caroline Gray bod hyn yn gamp "mawr" i’r Brifysgol.

"Her mawr y gwaith diweddaraf oedd sicrhau bod ein prosesau yn gweithio ar segment crwn, un sydd heb ei dorri yn barod i siâp hecsagon, ynghyd â lefelau penodol o gydymffurfiad ganol gofodol," meddai Caroline.

"Cafodd y tri segment oedd gennym eu derbyn i gyd yn erbyn cam dau, a oedd yn gyflawniad rhyfeddol, a’r ffaith ein bod ni wedi cyrraedd y carreg filltir ddiweddaraf, y darn o wydr crwn, yn dangos y gall ein proses gweithio hyd yn oed o fewn amserlen hynod o anodd. "

Ychwanegodd: "Rydym wedi cyfarfod ag anghenion ESO ac rydyn ni wrth ein bodd â hynny; doedd dim yn hawdd ac rydyn ni wedi wynebu llawer o rwystrau, ond rydyn wedi eu goresgyn.

Fodd bynnag, cyfaddefodd bod "y gwaith yn dechrau nawr" ar gam nesaf y prosiect, sef dod o hyd i gwmni i gydweithio ar gynhyrchu hyd at 1,000 o lensys.

"Mae'r gwaith o chwilio yn awr ar gyfer cydweithwyr sy'n gallu cymryd y prosesau trwy i statws gweithgynhyrchu," meddai Caroline.

Un o'r ymrwymiadau allweddol cyn i'r gwaith ddechrau ar caboli y drychau, oedd i adeiladu twr prawf optegol i gydymffurfio â manylebau ESO - yr unig un o'i fath yn y byd.

Llwyddodd y grŵp i’w wneud hynny, ond erbyn hyn mae'n rhaid addasu i ddyluniad drych newydd sydd ei angen ar gyfer manyleb terfynol y prif drych, sy’n golygu ei drawsnewid o radiws 84 metr i un o radiws 69 metr.

"Daethom yn bell yn barod, ond mae’r gwaith yn dechrau nawr ar gymryd yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu i'r lefel nesaf," meddai Caroline.

"Mae hwn wedi bod llwyddiant mawr arall i dîm prosiect ESO ac ar gyfer y Brifysgol, gan sicrhau ymhellach ein henw da fel grŵp gweithgynhyrchu optegol o safon fyd-eang."

I'w gwblhau yn 2024, bydd y llygad mawr ar yr awyr yn cael ei leoli yn Chile. Cafodd ei gymeradwyo ym mis Tachwedd.

Cafodd y grŵp glod byd-eang y llynedd am caboli’r optig 1.5m i 7.5 nanometr, y mesur gorau a gyflawnwyd  erioed yn y DU. Dyma'r tro cyntaf erioed i gamp o'r fath i gael ei gyflawni gan ddefnyddio peiriannau a weithredir gan gyfrifiadur, ynghyd â phroses caboli unigryw Phrifysgol Glyndŵr a’i system mesureg.

Ar ôl iddo gael ei gwblhau, bydd yr E-ELT yn casglu golau o sêr a galaethau pell. Bydd yn 39 metr mewn diamedr, a’i wnaed o 798 o segmentau. Lleolir ar Fynydd Cerro Armazones yn Chile, lle caiff ei osod i gasglu 15 gwaith mwy o olau na'r telesgopau mwyaf sydd yn gweithio heddiw.

Mae gwaith yn mynd rhagddo yn barod ar chwythu i ffwrdd rhan o'r brig y mynydd 3,000m ac ar gwblhau rhwydwaith ffordd i'r arsyllfa newydd.

Top