Edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau israddedig i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig

WGU Logo
WGU ten years

Prifysgol yn rhagweld elw o £1.7 miliwn wrth iddi baratoi i gyhoeddi cynllun strategol newydd

Gorffennaf 9, 2015

Elw - testun

Mae Prifysgol Glyndŵr yn rhagweld gwarged o £1.7 miliwn yn y flwyddyn academaidd sydd i ddod wrth iddi nodi cyfeiriad strategol newydd ac yn datgelu partneriaethau newydd a fydd o fudd i Ogledd Cymru.

Bydd yr Is-Ganghellor Dros Dro, yr Athro Graham Upton, yn amlinellu fframwaith strategol pum-mlynedd newydd y Brifysgol yn ei chyfarfod agored blynyddol fore dydd Gwener.

Penodwyd Celia Jenkins, cyn Uwch Siryf Clwyd, i Fwrdd y Llywodraethwyr eisoes ac yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw fe fydd tri aelod arall yn ymuno â hi; cyn Asiant Banc Lloegr yng Nghymru, Neil Ashbridge; Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol, Cyngor Sir Ddinbych, Rebecca Maxwell, a Maxine Penlington OBE, cyn-Brif Swyddog Gweithredu ym Mhrifysgol Dinas Birmingham a chyn Ysgrifennydd Gweithredol CUC (Pwyllgor Cadeiryddion Prifysgolion).

Fe fydd y pwyllgor archwilio hefyd yn recriwtio dau wyneb ffres, tra bydd partneriaethau allweddol gyda darparwyr addysg uwch eraill yn y rhanbarth yn cael eu datgelu ac fe fydd cynllun ariannol pedair blynedd sy'n targedu hyfywedd a chynaladwyedd yn cael ei gyflwyno.

Mae'n ddatblygiad pwysig i Brifysgol Glyndŵr ac mae'n dilyn cyfnod a oedd yn cynnwys ailstrwythuro gweithredol ac academaidd ac arbedion effeithlonrwydd ar draws ei gampysau, yn ogystal â ailwampio adrannau academaidd, sydd wedi’u hailenwi 'ysgolion' fel rhan o'r ad-drefnu.

Dywedodd yr Athro Upton y bydd rheoli mwy penodol brosiectau a chytundebau masnachol, gan gynnwys y rheini yng Nghanolfan OpTIC yn Llanelwy, a chynnydd yn y nifer o fyfyrwyr yn sicrhau bod y Brifysgol yn cadw ei sefydlogrwydd ariannol.

Mae'n parhau i fynd i'r afael â materion a godwyd gan y Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Llywodraeth Cymru, a chyda chefnogaeth Prifysgolion Cymru a gwleidyddion a rhanddeiliaid eraill yng Ngogledd Cymru yn benderfynol o sicrhau cyfnod newydd ar gyfer y sefydliad.

"Does dim amheuaeth bod y brifysgol hon wedi wynebu ei heriau, ond rydyn yn awr mewn sefyllfa llawer cryfach ac yn barod i adeiladu dyfodol cadarnhaol i Brifysgol Glyndŵr," meddai.

"Mae'r strategaeth bum mlynedd, a rhoddwyd at ei gilydd yn dod ar ôl misoedd o waith caled gan bawb yma, yn enwedig ein pwyllgor rheoli, a'r ffaith ein bod yn rhagweld gwarged o £1.7m ar gyfer y flwyddyn i ddod yn dyst i hynny.

"Rydym yn falch o'r cynnydd, a thrwy ymuno â phrifysgolion a cholegau eraill yn y rhanbarth ar lefel strategol rydyn ni wedi dangos mai'r ffordd ymlaen yw fel sefydliad annibynnol yn gweithio yn agos gyda sefydliadau partner er lles ein myfyrwyr, a chymuned gogledd-ddwyrain Cymru. "

Ychwanegodd yr Athro Upton na fyddai staff ym Mhrifysgol Glyndŵr yn gorffwys ar eu rhwyfau - rhoi myfyrwyr wrth wraidd y Brifysgol yn dal i fod frig eu hagenda.

"Rydym yn falch fod nifer cynyddol o fyfyrwyr yn cydnabod popeth sydd gan Glyndŵr i'w gynnig, gan ein rhoi ar y blaen i lle yr oeddem y llynedd o ran ceisiadau a derbyniadau myfyrwyr, ond ni allwn llaesu dwylo," meddai.

 

"Mae recriwtio myfyrwyr newydd llawn a rhan-amser yn allweddol i ddyfodol y brifysgol hon ac rydym yn gweithio'n galed i greu cyfleoedd ac yn edrych ymlaen at fwy o fyfyrwyr ym mis Medi."

Croesawodd Aelod Seneddol Wrecsam Ian Lucas y strategaeth newydd a dywedodd bod gael Glyndŵr iach a llwyddiannus yn hanfodol i ddyfodol yr ardal.

Meddai: "Rwy'n croesawu'r gwarged a ragwelir ar gyfer y flwyddyn nesaf o dan arweiniad yr Athro Upton.

"Rwyf hefyd yn falch o weld gwaed newydd ym Mwrdd y Llywodraethwyr, llawer ohonynt â chysylltiadau cryf â gogledd ddwyrain Cymru.

"Mae llwyddiant ein prifysgol yn rhag-amod ar gyfer llwyddiant ein rhanbarth. Mae angen i ni nawr i adeiladu momentwm pellach yn ein cymuned i gefnogi staff a myfyrwyr Glyndŵr i gyflawni'r nod hwnnw."

Ychwanegodd Aelod Cynulliad Wrecsam Lesley Griffiths: "Mae hyn yn sicr yn newyddion i'w groesawu a chymeradwyaf bawb yn y Brifysgol am eu gwaith caled.

"Er bod Prifysgol Glyndŵr wedi bod trwy gyfnodau anodd, mae'n wych eu gweld nhw'n rhagweld gwarged a symud ymlaen.

"Mae Wrecsam yn ffodus o gael sefydliad addysgol arloesol fel Prifysgol Glyndŵr. Roedd y sefydliad yn helpu i hyrwyddo ein rhanbarth, mae wedi cael effaith gadarnhaol ar y dref, yn ogystal â'r gymuned ehangach yng ngogledd ddwyrain Cymru, a bydd datblygiadau diweddaraf hyn yn eu galluogi i fynd o nerth i nerth. "

Dywedodd Marc Caldecott, llywydd newydd Urdd y Myfyrwyr yn y Brifysgol, bod hwn yn hwb mawr i'r Brifysgol ar ôl cyfnod "heriol".

"Ar ôl y flwyddyn anodd a gawsom, rydym wrth ein bodd gyda'r newyddion hwn," meddai Marc.

“Fel Urdd teimlwn fod ein hegwyddorion myfyrwyr yn gyntaf wedi cael eu cymryd i ystyriaeth - ein llais wedi cael ei glywed - ac roeddem yn falch o fod yn rhan o lunio'r fframwaith strategol newydd gyda'r Athro Upton a'r tîm.

"Rydym yn credu y bydd y blynyddoedd nesaf yn mynd i fod yn gyffrous i Brifysgol Glyndŵr, ei staff a myfyrwyr, ac yn edrych ymlaen at y dyfodol."

Top