Sefydlu Canghellor newydd

11 Gorffennaf 2012
Mae Canghellor newydd Prifysgol Glyndŵr wedi cael ei sefydlu’n ffurfiol yn y swydd.
Heddiw, cymrodd Syr Jon Shortridge, un o brif benseiri datganoli Cymreig, lw’r Canghellor mewn seremoni a gynhaliwyd yng Nghanolfan Catrin Finch y brifysgol.
Wedi dal nifer o’r swyddi uchaf yn y gwasanaeth sifil yng Nghymru, ystyrir Syr Jon fel un o benseiri allweddol datganoli.
Yn ei araith ar ôl iddo gymryd y llw, siaradodd am waith y brifysgol yn creu cyfleoedd i bobl ifanc o bob cefndir, ei llwyddiant wrth weithio ochr yn ochr â chymuned Wrecsam a’i huchelgais ar gyfer y dyfodol.
Meddai: “Nid yn unig y mae Glyndŵr yn edrych tuag allan ac yn uchelgeisiol, hon hefyd yn fy marn i yw’r brifysgol fwyaf entrepreneuraidd ei hagwedd o blith holl brifysgolion Cymru.”
Cyfeiriodd Syr Jon at engreifftiau fel gwaith y brifysgol gyda rhaglen Telesgop Eithriadol Fawr Ewrop, ei chaffaeliad o Brifysgol Glyndŵr Llundain a’i chofnod cryf o gyflogaeth graddedigion.
Meddai: “Cytunais (i fod yn Ganghellor) gan fy mod wedi ystyried Prifysgol Glyndŵr fel un o’r sefydliadau gorau yng Nghymru ers tro, felly roedd y cyfle i fod yn gysylltiedig â hi – i helpu i roi dyfodol gwell a mwy diogel iddi – yn gyfle rhy fawr a phwysig i’w golli.”
Yn yr un seremoni, cyflwynwyd gwobrau am wasanaeth hir i nifer o staff y brifysgol – gan gynnwys yr Is-Ganghellor, yr Athro Michael Scott.
Derbyniodd yr Athro Scott y wobr mewn cydnabyddiaeth o 10 mlynedd o wasanaeth, gan iddo ymuno â’r sefydliad, a alwyd yn NEWI bryd hynny, fel Prifathro yn 2001.
Gan arwain y tîm a greodd Brifysgol Glyndŵr, daeth yn Is-Ganghellor pan ddyfarnwyd statws prifysgol llawn yn 2008.
Meddai: “Rwyf wedi mwynhau’r her hyd yma ac yn parhau i fwynhau’r her o ddatblygu prifysgol newydd yn unol â dyheadau a strategaethau Llywodraeth Cymru.
“Cafodd y brifysgol ei chreu yng nghyd-destun datganoli, i hyrwyddo datblygiad diwydiannol a chyfiawnder cymdeithasol, ac edrychaf ymlaen at y blynyddoedd i ddod a llwyddiannau’r brifysgol yn y dyfodol.”