Myfyriwr graddedig yn ymbaratoi am rôl Olympaidd

20 Mehefin 2012
BYDD myfyriwr sydd wedi graddio mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Glyndŵr yn ymgymryd â swydd gyfathrebu allweddol yng Ngêmau Olympaidd Llundain.
Bydd Robert Doman, a raddiodd o gwrs tystysgrif addysg uwch mewn newyddiaduraeth y brifysgol yn 2010, yn mynd i’r brifddinas i weithio yn swyddfa wasg y Gêmau.
Bydd yn gweithio ochr yn ochr a gwasg y byd wedi iddo gael ei ddewis o blith 250,000 o ymgeiswyr, ar ôl iddo ddangos diddordeb yn y swydd i ddechrau dros ddwy flynedd yn ôl.
Mae Robert yn gweithio fel gohebydd gyda phapur newydd yr Oswestry and Border Counties Advertizer, swydd a gafodd yn sgil profiad gwaith fel rhan o bartneriaeth y brifysgol gyda NWN Media.
Ar ôl clywed ei fod wedi cael ei ddewis i helpu tîm gweithrediadau’r wasg Pwyllgor Trefnu Gêmau Olympaidd Llundain yn fuan cyn y Nadolig, dywedodd y gohebydd newyddion a chwaraeon ei fod yn dechrau teimlo’r cyffro yn crynhoi cyn y Gêmau arfaethedig.
Meddai Robert: “Ar ôl gweld faint o bobl oedd wedi troi allan ar strydoedd Croesoswallt i gael cip o’r Ffagl Olympaidd, sylweddolais mor anferth oedd yr achlysur yn mynd i fod.
“Mae’n debyg mai dyma’r unig ffordd y byddaf yn cael fy newis i gymryd rhan yn y Gêmau Olympaidd, ond gobeithio y byddaf mor gyflym allan o’r blociau ag unrhyw un arall pan fydd fy swydd yn cychwyn ym mis Gorffennaf.”
Bydd Robert yn gweithio yn lleoliad y Copper Box ychydig gannoedd o lathenni o’r prif stadiwm Olympaidd.
Bydd ei gyfrifoldebau yn cychwyn 24 awr cyn y seremoni agoriadol swyddogol ac mae’n gobeithio y bydd ei gyfnod gyda’r Advertizer o fudd iddo wrth gludo’r faner dros ei gyd-newyddiadurwyr yn ystod y Gêmau.
Meddai: “Bydd yn brofiad anhygoel, a bydd cael cyfle i brofi synau a golygfeydd awyrgylch mor drydanol oddi mewn i’r Parc Olympaidd ei hun yn hollol wych.”