Marathon reiki Ray yn codi arian i ysbyty
Codwyd £407 i ward Seren Wib yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn sgil marathon iacháu ysbrydol ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Bu Ray Hill, 57, o Gresffordd, yn rhoi triniaethau reiki, y therapi cyfannol Japaneaidd, dros ddeuddydd yn adeilad llyfrgell y brifysgol, ble mae’n gweithio fel gofalwr.
Trefnodd Ray y digwyddiad codi arian fel ffordd o ddiolch i staff yr ward, a helpodd ei wraig Jackie i wella’n llwyr o ganser y coluddion.
Cynigiodd Ray y triniaethau reiki i staff, myfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd yn gyfnewid am roddion ariannol i ward Seren Wib.
Meddai: “Aeth y digwyddiad codi arian yn dda iawn a hoffwn ddiolch i bawb wnaeth fy nghefnogi – yn enwedig staff y llyfrgell yn Glyndŵr a wnaeth y peth yn bosib.
“Mae’r holl arian a godwyd yn mynd tuag at achos gwych. Roedd pawb yn y ward Seren Wib yn anhygoel pan oedd Jackie yno felly mae’n bleser gen i allu rhoi rhywbeth yn ôl.”