Edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau israddedig i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig

WGU Logo
WGU ten years

Ffigwr chwedlonol o Fanceinion mewn mis o ddigwyddiadau cerddorol

30 Ebrill 2012

Bydd un o ffigyrau blaenllaw sîn gerddorol Manceinion yn perfformio ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Bydd Peter Hook, cyn-fasydd y grwpiau Joy Division a New Order yn perfformio yn stiwdio deledu’r brifysgol fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau ‘Music Mayhem’ gydol y mis.

Bydd Hook yn perfformio gyda’i fand newydd, Peter Hook and The Light, Ddydd Iau, Mai 24.

Agorir Music Mayhem gan y deuawd gwerin electronig Golden Fable ar Fai yr 2il, gyda’r arwyr lleol Gallops yn cloi’r digwyddiad ar Fai y 30ain.

Yn cwblhau’r lein-yp mae Barrie Davies ac Orient Machine, wedi’i drefnu gan gwmni cynhyrchu Teledu Glyndŵr, sydd wedi’i leoli yn y stiwdio yng Nghanolfan Diwydiannau Creadigol y brifysgol. 

Bydd gig Peter Hook and The Light yn nodi ail ymweliad Hook â’r stiwdio, gan iddo roi darlith gyhoeddus am y diwydiant cerddoriaeth yno ym Mai 2011.

Meddai llefarydd ar ran Teledu Glyndŵr: “Rydym yn eithriadol o falch o groesawu Peter yn ôl i’r stiwdio, yn ogystal ag edrych ymlaen at y pedwar act arall sy’n argoeli i roi cyfres o gigs cyffrous.”

Rhaglen lawn Music Mayhem:

Dydd Mercher, Mai 2 2012, 7pm – Golden Fable

Dydd Mawrth, Mai 8 2012, 7pm – Orient Machine

Dydd Mercher, Mai 16 2012, 7pm – Barrie Davies

Dydd Iau, Mai 24 2012, 7.30pm – Peter Hook and The Light

Dydd Mercher, Mai 30 2012, 7pm – Gallops

Am fanylion tocynnau llawn ewch i http://www.ticketsource.co.uk/glyndwrtv

Top