Llefydd i astudio gradd yn dal ar gael ar gyfer mynediad 2012/13 ym Mhrifysgol Glyndŵr
29 Awst 2012
Mae llefydd yn dal ar gael ar gyfer mis Medi ym Mhrifysgol Glyndŵr, y lle mwyaf fforddiadwy i astudio ynddo ar lefel addysg uwch yng Nghymru.
Mae polisi ffioedd teg y brifysgol, a’r gost ar gyfartaledd o £6,643 ar gyfer graddau israddedig llawn-amser yn y flwyddyn academaidd 2012-13, wedi golygu bod nifer fawr iawn o fyfyrwyr wedi gwneud cais am le ers diwrnod y canlyniadau yr wythnos diwethaf.
Dywedodd Julie Cowley, pennaeth partneriaethau, recriwtio a derbyn, fod tîm derbyn y brifysgol wedi derbyn llu o alwadau, ond bod pob ymholiad yn cael ei ateb a bod penderfyniadau yn cael eu gwneud yn gyflym.
Mae yna linell ffôn benodol ar gyfer Clirio, yn ogystal â sgyrsiau yn fyw ar y we a diwrnod agored pan ddaeth cannoedd o ddarpar fyfyrwyr i ymweld â’r brifysgol ar y dydd Sadwrn.
Meddai Julie: "Mae’r bobl sydd gennym ar y ffôn yn gallu rhoi penderfyniadau cyflym yn syth bin i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr.
“Rydym wedi cael nifer fawr o geisiadau am ein cyrsiau, ond rydym yn dal yn gallu derbyn rhagor o fyfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.
"Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau ar hyd y diwydiannau creadigol, gwyddoniaeth, peirianneg, gofal iechyd ac addysg.
“Mae ein cyrsiau wedi’u harwain gan y diwydiant, a dyma un o’r ffactorau sy’n arwain at gyfraddau cyflogadwyedd mor drawiadol i’n graddedigion.”
Gall ymgeiswyr weld rhestr lawn o’r cyrsiau ar-lein neu ffonio 01978 293439 i siarad ag un o swyddogion derbyn y brifysgol.
Byddwn yn ceisio gwneud penderfyniad dros y ffôn. Ond efallai fod eithriadau, er enghraifft, pan fo cwrs yn gofyn am gyfweliad neu glyweliad.