Edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau israddedig i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig

WGU Logo
WGU ten years

Myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr ar Ymweliad Brenhinol

12 Chwefror 2010

Aeth pedwar ar hugain o fyfyrwyr Prifysgol Cymru ar Ymweliad Brenhinol â phreswylfa EUB Tywysog Cymru yng Ngorllewin Cymru, Llwynywermod.

Tywysog Cymru yw Canghellor y Brifysgol ac er mwyn cynnal ei gysylltiadau clos â’r sefydliad a’i fyfyrwyr, mae’n estyn gwahoddiad blynyddol i fyfyrwyr Prifysgol Cymru ymweld â’i breswylfa Gymreig ger Myddfai, Llanymddyfri.

Mae Ei Uchelder Brenhinol yn ymddiddori’n fawr yn astudiaethau a dyheadau myfyrwyr y Brifysgol.

Mae Llwynywermod, yng nghanol y bryniau i’r gogledd o Fannau Brycheiniog, gyda golygfeydd ysblennydd ar draws yr ystâd 192 erw a chefn gwlad ehangach Sir Gaerfyrddin, wedi’i osod mewn parc hanesyddol rhestredig.

Dyma breswylfa swyddogol Tywysog Cymru a Duges Cernyw yng Nghymru.

Oherwydd tywydd gwael, bu’n rhaid gohirio ymweliad 2009, felly eleni daeth nifer dda o fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer graddau Prifysgol Cymru mewn sefydliadau ledled y wlad i’r digwyddiad.

Bob blwyddyn mae Prifysgolion yng Nghymru sy’n cynnig ein graddau yn enwebu myfyrwyr i gyfarfod â’r Canghellor.

Eleni daeth myfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr; Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan; Coleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin; Prifysgol Fetropolitan Abertawe; Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC) a hefyd myfyrwyr o Brifysgolion Bangor, Abertawe ac Aberystwyth sy’n astudio ar gyfer graddau Prifysgol Cymru.

Ymysg y myfyrwyr a ddaeth i fwynhau’r achlysur brenhinol roedd darpar wneuthurwyr ffilm, seicolegwyr a ffisegwyr.

A hithau yn ei blwyddyn olaf yn astudio am radd BSc ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam dywedodd Rhiannon Dafydd: “Rwyf i wrth fy modd yn cael bod yn rhan o ymweliad Prifysgol Cymru â Llwynywermod ac mae’r cyfle i gyfarfod â’r Tywysog ei hun yn ffantastig!

"Roedd ganddo ddiddordeb mawr i ddysgu amdanom ni. Mae hwn yn brofiad bythgofiadwy.”

Ychwanegodd Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Marc Clement: “Mae Ei Uchelder Brenhinol, fel Canghellor y Brifysgol, yn cymryd diddordeb byw yn ein holl weithgareddau, ac rydym yn falch iawn fod ein myfyrwyr yn cael y cyfle hwn i ymweld ag e yn ei gartref yng Nghymru.

"Mae’r myfyrwyr i gyd wedi mwynhau cyfarfod ag e i siarad am eu hastudiaethau a’u profiadau ym Mhrifysgol Cymru.”

Top