Edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau israddedig i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig - dewch i'n diwrnod agored nesaf i ddarganfod mwy.

WGU Logo
WGU ten years

Disgwylir i brosiect ynni heulol gwerth £4.4 miliwn greu swyddi newydd yng Nghymru â dod ag ynni adnewyddadwy fforddiadwy i filoedd

25 Tachwedd 2010
Disgwylir i brosiect ynni heulol gwerth £4.4 miliwn greu swyddi newydd yng Nghym

Gallai prosiect ynni heulol gwerth £4.4 miliwn dan arweiniad Prifysgol Glyndŵr greu dros 50 o swyddi newydd a darparu datblygiad allweddol mewn dod ag ynni adnewyddadwy fforddiadwy i filoedd o dai.
 
Bydd Canolfan Ymchwil Ynni Heulol (CSER) y Brifysgol yn datblygu celloedd heulol ffotofoltäig sy’n cael eu hoptimeiddio ar gyfer casglu ynni heulol o gyflwr y tywydd yng Nghymru fel rhan o Gonsortiwm Ymchwil Academaidd Ffotofoltäig Heulol Cymru (SPARC Cymru).
 
Bydd ymchwilwyr yn y ganolfan yn Llanelwy, Gogledd Cymru, yn cydweithredu gyda gwyddonwyr o brifysgolion Bangor ac Abertawe i gwblhau prosiect tair blynedd sydd wedi cael ei ariannu’n rhannol gan Gydgyfeirio Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr UE trwy Lywodraeth y Cynulliad.
 
Amcangyfrifir y bydd celloedd heulol PV yn darparu 20 y cant o anghenion trydan Cymru erbyn 2050, fodd bynnag, mae’r dechnoleg wedi bod yn araf yn cael ei derbyn hyd yma – oherwydd costau afresymol o uchel a’r ffaith nad yw’r celloedd wedi cael eu haddasu eto i sicrhau’r effeithlonrwydd mwyaf gan ynni heulol mewn gwledydd gyda hinsawdd dymherus, fel Cymru.
 
Bydd yr ymchwil yn datblygu technolegau a dyfeisiadau newydd sy’n taclo’r ddwy her yma, gyda swyddi yn cael eu creu yn sgil yr ymchwil ei hun, yn ogystal â’r gadwyn gyflenwi a mentrau masnachol sy’n elwa o dderbyniad cynyddol o gelloedd heulol.
 
Meddai’r Athro Stuart Irvine, Cyfarwyddwr CSER: “Mae hwn yn prosiect cydweithrediadol iawn, gyda’n harbenigedd mewn ynni heulol yn cael ei gyfuno gydag arbenigedd technoleg electroneg Prifysgol Abertawe mewn gwella effeithlonrwydd wrth droi’r ynni yn drydan y gellir ei ddefnyddio ar y Grid Cenedlaethol.

"Mae’r prosiect hefyd yn cyfuno ein technoleg haen denau gyda chelloedd heulol lliw-sensiteiddiedig arloesol gydag ymchwilwyr o Brifysgolion Bangor ac Abertawe”.
 
“Mae gennym gyfleusterau o safon ryngwladol yn Llanelwy a’r gallu i weld popeth o ymchwil gychwynnol i gynhyrchu modiwlau celloedd heulol haen denau bychain.

"Ar hyn o bryd, rydym yn gweithredu gyda chelloedd 5cm sgwâr ond y nod yw cynyddu i brofi modiwlau 30cm sgwâr – gan fynd â ni yn llawer nes at faint cell heulol y gellir ei defnyddio yn fasnachol i ddarparu anghenion trydan Cymru yn y dyfodol.”
 
Daw’r cyhoeddiad am brosiect SPARC wrth i’r Sefydliad Ymchwil Carbon Isel (SYCI), grŵp Cymru gyfan gyda’r dasg o lunio dyfodol ymchwil ynni yng Nghymru, gynnal eu cynhadledd flynyddol yng Nghaerdydd yr wythnos hon.
 
Yn ddiweddar, gwobrwywyd £15.3 miliwn i SYCI, a arweinir gan Brifysgol Caerdydd ac yn cynnwys ei phartneriaid, prifysgolion Glyndŵr, Bangor, Abertawe, Morgannwg ac Aberystwyth, gan Swyddfa Cyllido Ewropeaidd Cymru (SCEC) er mwyn galluogi Cymru i arwain y ffordd mewn helpu i leihau tarthiadau carbon. Mae’r prosiect SYCI cyfan yn werth £34m.

Top