Côr Cymunedol Prifysgol Glyndŵr ar fin perfformio ar lwyfan am y tro cyntaf mewn cyngerdd Gŵyl Dewi

ELENI mae Dydd Gŵyl Dewi yn argoeli i fod yn un eithriadol o arbennig i griw o gantorion dawnus, pan fyddant yn perfformio ar lwyfan yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn Neuadd William Aston Wrecsam.
Gyda cherddorfa cenedlaethol adnabyddus Cerddorfa Siambr Cymru yn cyfeilio iddynt, bydd Côr Cymunedol Prifysgol Glyndŵr yn cyflwyno diweddglo cyngerdd a chinio arbennig i ddathlu nawddsant Cymru.
Cynhelir y digwyddiad Ddydd Llun, Mawrth y 1af, gan gychwyn gyda chinio am 6.30pm, a chyngerdd i ddilyn am 7.30pm.
Yr arweinydd ar y noson fydd Anthony Hose, gyda’r bariton Jeremy Huw Williams a’r ffliwtydd Fiona Slominska. Y côr-feistr fydd Peter Litman.
Bydd y rhaglen yn cynnwys Agorawd Trwmped Purcell,Trefniadau Caneuon Gwerin Cymreig Haydn, Concerto Ffliwt Rhif 2 mewn D Mozart, Adagio ar gyfer Llinynnau Barber a Gloria RV 589 Vivaldi.
Daeth Côr Prifysgol Glyndŵr i fodolaeth yn sgil sgwrs rhwng Dr Peter Litman a’r Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr.
Trefnwyd sesiwn unigol er mwyn gweld faint o ddiddordeb oedd yna a mynychwyd hon gan tua 35 o bobl, yn cynnwys myfyrwyr, staff ac aelodau or gymuned.
Yn dilyn y sesiwn yma, a chyda’r don o frwdfrydedd i ffurfio côr, sefydlwyd Côr Cymunedol Prifysgol Glyndŵr.
Meddai Dr Litman: “Buom yn canu yn ‘gyhoeddus’ am y tro cyntaf ar Ragfyr 16 yn llyfrgell y Brifysgol, ble ymunwyd â ni gan y côr o Goleg Iâl am gyngerdd byr o gerddoriaeth Nadoligaidd. Ailadroddwyd y cyngerdd yma yng Nholeg Ial y diwrnod wedyn.
“Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad cyntaf yma, parhaodd y côr i dyfu a threfnwyd y cyngerdd arfaethedig, gan weithio ar y cyd â Cherddorfa Siambr Cymru."
Mae’r côr yn gôr mynediad agored i fyfyrwyr, staff ac aelodau o’r gymuned.
Nid yw’r gallu i ddarllen cerddoriaeth yn amod er mwyn bod yn aelod, dim ond hoffter a mwyniant pur o ganu.
Yn sgil ymddangosiad sawl rhaglen am gorau ar y teledu, dengys ymchwil gynyddol fod canu yn fanteisiol i iechyd meddwl, ysbrydol a chorfforol.
"Y mae’n wirioneddol anhygoel beth mae’r cantorion hyn yn gallu ei wneud,” ychwanegodd Dr Litman.
“Mae dod at ein gilydd am gwpwl o oriau unwaith yr wythnos am wyth i ddeg wythnos a chyflawni perfformiad proffesiynol yn gyffrous iawn.
“Yn ogystal, rwyf yn credu ei fod nid yn unig yn gwella iechyd a hyder yr unigolyn, ond ei fod hefyd yn ddatganiad hyf wrth greu synnwyr o gymuned ar gyfer y byd amlweddog yr ydym yn byw ynddo.”
Dywedodd yr Athro Scott iddo gael ei synnu gan dwf cyflym y côr ers iddo gael ei ffurfio ym mis Tachwedd.
Meddai: “Mae’r lefel o ddiddordeb wedi ein synnu a’n rhyfeddu – mae cael dros 60 aelod ar ôl dim ond ychydig wythnosau yn wirioneddol wych.
“Roedd y syniad o gychwyn côr cymunedol yn rhywbeth ychydig yn wahanol ar gyfer y Brifysgol a, chyn belled ag y gwn i, yn rhywbeth nad yw’r sefydliad wedi ei wneud o’r blaen yn ystod ei hanes 100 mlynedd.
“Mae Glyndŵr yn brifysgol ar gyfer cymuned Wrecsam a dyna beth yw pwrpas y côr – dod â phobl sydd â diddordeb mewn canu o bob cwr o ogledd ddwyrain Cymru at ei gilydd.
“Mae gennym eisoes ganolfan gymunedol ardderchog yn Neuadd William Aston ac rwyf wrth fy modd fod gennym côr yn awr i berfformio ynddi.
"Dymunaf y gorau iddynt ar gyfer eu perfformiad ar Ddydd Gŵyl Dewi.
“Hoffwn hefyd dalu teyrnged i’r côr-feistr, Dr Peter Litman, sydd wedi rhoi arweiniad ysbrydoledig wrth greu’r côr yma.
“Mae côr y Brifysgol yn wirioneddol ffodus o gael rhywun fel Peter i arwain a chymell yr aelodau o’r dechrau.”
Cynhelir ymarferion ar Ddydd Mawrth yn y Brifysgol rhwng 5.30-7.30pm, croeso i bawb sy’n canu.
Yn gyn-ysgolhaig organ yng Nghaergaint, tan yn ddiweddar, bu Peter Litman hefyd yn gyfarwyddwr cwrs yr MA Addysg Gorawl ym Mhrifysgol Roehampton yn Llundain.
Y mae wedi gweithio gyda Chôr Ieuenctid Cenedlaethol Prydain, Cantorion y BBC Côr Cenedlaethol Peru, a Lleisiau’r RSCM.
Y mae hefyd wedi bod yn gysylltiedig ag agweddau ymchwil arwain corawl ac yn awdur cyhoeddedig yn y maes.
Ar wahân i gôr Glyndŵr côr, a’i ymrwymiadau addysgu a chwarae’r organ, y mae hefyd yn organydd ac yn gôr-feistr yn Eglwys Golegol San Pedr yn Rhuthun.
Sefydlwyd Cerddorfa Siambr Cymru i lenwi’r bwlch ym mywyd cerddorol Cymru rhwng perfformiadau ensembles cerddorfa siambr bychain ac unigol a rhai’r gerddorfa symffoni.
Ers ei sefydlu yn 1986 y mae wedi perfformio gyda llawer o artistiaid mawr y byd, gan fynd ar sawl taith cyngerdd Ewropeaidd yn ogystal â pherfformio ledled Cymru.
Y mae wedi recordio sawl rhaglen deledu gan gynnwys cyfres opera arobryn mewn gŵyl ffilm yn Efrog Newydd.
Tocynnau: Seddau: £15.00 Consesiynau: £13.00. Mae’r pris yn cynnwys swper hotpot am 6.30pm.
Ar gael o Ganolfan Groeso Wrecsam, rhif ffôn 01978 292015 neu ar-lein yn www.glyndwr.ac.uk/events neu mewn person yn yr Ystafell Argraffu neu’r Siop Lyfrau ar y campws.