Annog busnesau i fanteisio ar gynllun KTP yn gweithio gyda Phrifysgol Glyndwr Wrecsam
22 Awst 2017

Mae busnesau yn cael eu hannog i ymuno â chynllun sy'n dod â diwydiant a'r byd academaidd at ei gilydd i gwblhau prosiectau strategol.
Mae gan Brifysgol Glyndwr Wrecsam draddodiad cryf o weithio gyda chwmnïau i gyflwyno rhaglenni KTP (Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth), gan gynnwys partneriaethau gyda chwmnïau o Ogledd Cymru fel Brother Industries, P&A Group a Quay Pharma
Nod yr Dirprwy Is-Ganghellor, Dr Aulay Mackenzie, yw cryfhau cysylltiadau ymhellach a thyfu partneriaethau addysgol, gyda KTP ar frig yr agenda yr hydref hwn.
Mae'r Rheolwr Datblygu Busnes, Laura Gough, yn arwain y tîm, ac mae'n hyderus y bydd enw da'r sefydliad ym myd busnes, ei sylfaen wybodaeth eang a'r cynnydd arall yn ei hystadegau cyflogadwyedd yn arwain at gynghreiriau newydd a fydd o fudd i bob parti.
Meddai; “Mae gennym ffydd erioed yng ngwerth KTP, sy'n darparu rhagoriaeth academaidd i fusnesau i ymgymryd â phrosiectau arloesol er lles y cyflogwr a'r economi ranbarthol.”
“Rydym wedi cefnogi hyd at 50 o gwmnïau mewn ystod eang o feysydd o gemeg i farchnata, gyda'n darlithwyr yn bwydo'n uniongyrchol i'r prosiectau, gan roi gwybodaeth newydd i gwmnïau i gynorthwyo yn eu datblygiad a'u datblygiad strategol.”
Ychwanegodd Laura: “Mae'r Brifysgol yn cael llawer o hyn hefyd; mae ein graddau wedi'u teilwra i weddu i ddiwydiant, sfelly mae gweithio gyda chwmnïau lleol a rhanbarthol ar brosiectau yn ein galluogi i ddatblygu ein cwricwlwm ymhellach i gynnwys ymwybyddiaeth ddiwydiannol gyfoes sy'n ein cynorthwyo i sicrhau bod ein myfyrwyr amser llawn yn barod i weithio ar ôl iddyn nhw raddio”.
Mae Brother Industries UK (Ltd), sy'n gweithredu o safle yn Rhiwabon, yn un o'r rheiny sydd wedi gweithio'n agos â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam ar ymgyrch KTP yn annog cwsmeriaid i ddychwelyd mwy o nwyddau traul i'r cwmni yn uniongyrchol er mwyn i'r nwyddau gael eu hailgylchu, yn hytrach na mynd i safle tirlenwi.
Gwnaeth myfyriwr Seicoleg Gwsmeriaid graddedig a darlithydd o Ysgol Busnes Gogledd Cymru yn rhan o dîm y prosiect, gobaith y cwmni oedd ychwanegu miliwn ychwanegol at nifer y nwyddau traul, gan gynnwys cetris argraffu a chestris arlliw, y mae'n eu hailgylchu.
Meddai Phil Mack, cyfarwyddwr Brother Industries UK (Ltd),: “Mae'r prosiect yn rhan o'n hamcanion amgylcheddol byd-eang. Fel cwmni, mae gennym gyfrifoldeb am gynhyrchu cynaliadwy, a dyna pam yr ydym am i fwy o bobl ddychwelyd ein cynnyrch traul yn ôl inni er mwyn inni ailgylchu'r cynnyrch hwnnw.
“Mae'r safle yn Rhiwabon yn gyfrifol am ailgylchu o fewn y cwmni ac rydym wrth ein bodd bod Prifysgol Glyndŵr, prifysgol leol, yn cydweithio gyda ni.”
Gall hyd KTP fod am unrhyw gyfnod o amser rhwng un a thair blynedd, a gall amrywio yn ôl yr angen busnes. Y nod cyffredinol yw helpu sefydliadau i wneud newidiadau mawr sylweddol mewn meysydd y maent wedi'u nodi fel rhai blaenoriaeth uchel.
Mae KTP wedi gweithio gyda mwy na 3,000 o sefydliadau. O weithgynhyrchu i ddylunio, cynaliadwyedd i farchnata; gall unrhyw sector busnes, gan gynnwys y trydydd sector a sefydliadau'r sector cyhoeddus, fel y GIG, gymryd rhan. Gall busnesau o bob maint gymryd rhan hefyd, o ficro-fusnesau i fentrau mawr.
Darganfyddwch fwy am brosiectau KTP neu ffoniwch Laura Gough ar 01978 293997 i drafod.