20 Rhagfyr 2017
Prifysgol Glyndwr Wrecsam yn chwarae rôl allweddol wrth lansio cynnig twf

Mae chwe Chyngor Gogledd Cymru wedi cyflwyno Cais Twf i Lywodraethau Cymru a'r DU
Bydd trafodaethau ar y cyflwyniad yn cychwyn yn y Flwyddyn Newydd yn 2018.
Mae'r Cynghorau wedi ffurfio corff newydd - Bwrdd Twf Gogledd Cymru - i gwblhau'r Fargen Twf ac i reoli ei gyflenwi unwaith y cytunwyd arno gyda'r ddwy Lywodraeth, a chwrddodd â hwy yng Nghanolfan OpTIC Prifysgol Glyndŵr yn Llanelwy yr wythnos diwethaf.
Cyd-bwyllgor Awdurdod Lleol yw'r corff newydd gyda chynrychiolwyr o'r prif bartneriaid: Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, Prifysgolion a Cholegau Addysg Bellach.
Byddai'r cynigion yn galluogi buddsoddiad o £1.3 biliwn yn economi Gogledd Cymru o arian bargen twf o £328m o gyfalaf a refeniw o £55.4m, sef cyfanswm o £383.4m, sef enillion o £3.40 am bob punt a wariwyd.
Caiff dros 5,000 o swyddi eu creu. Mae canlyniadau eraill yn cael eu hamcangyfrif a byddant yn cynnwys creu busnesau newydd, unedau tai wedi'u hadeiladu, gan gynnwys tai fforddiadwy a sicrhau gwaith i gartrefi di-waith.
Bydd y cyllid ar gyfer y Cais Twf, os caiff ei gymeradwyo, yn cael ei ddarparu ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Meddai y Cyng. Aaron Shotton, Cadeirydd Bwrdd Twf Gogledd Cymru:“Rwy'n falch iawn o gyhoeddi lansiad ffurfiol Cais Twf Gogledd Cymru gyda'm cyd-Arweinwyr Cyngor a chynrychiolwyr ein prif bartneriaid mewn Busnes, Addysg Uwch ac Addysg Bellach.
"Rydym wedi cyflwyno ein prif gynigion i Guto Bebb AS, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru ac i Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru.
"Rydym wedi sefydlu Cyd-bwyllgor Cysgodol a elwir yn Fwrdd Twf Gogledd Cymru. Mae'r bwrdd newydd yn diolch i aelodau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru am eu cyfraniad i adeiladu'r llwyfan ar gyfer Cais Twf credadwy ac uchelgeisiol dros y 18 mis diwethaf.
"Rydym yn y broses o benodi tîm datblygu cais i lunio achosion busnes manwl i'r safonau sy'n ofynnol trwy gyflenwi'n effeithiol. Rydym yn golygu gwneud yr hyn a ddywedwn."
Ychwanegodd:"Mae ein cynigion wedi'u datblygu mewn partneriaeth â'r sector preifat, ein prifysgolion, (Bangor a Glyndwr Wrecsam) a'n Colegau Addysg Bellach, (Cambria a Grwp LLandrillo Menai). Rydym wedi cael cefnogaeth ac anogaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ein Haelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol. Bu'n ymdrech dîm go-iawn i gyrraedd y fan hon.
"Mae Gogledd Cymru yn rhanbarth unedig ac uchelgeisiol. Ein nod yw datblygu economi newydd, fwy ffyniannus, arloesol a chynhyrchiol sy'n gall, yn gysylltiedig ac yn wydn ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer gwell cyflogaeth ar draws y rhanbarth cyfan."
Meddai'r Cyng. Dyfrig Siencyn, Is-gadeirydd y Bwrdd Twf:"Dim ond un rhan o'n Gweledigaeth Twf mae'r Cais Twf. Byddwn yn parhau i bwyso am well cysylltiadau trafnidiaeth y tu allan i'r Cais Twf. Byddwn yn ymgyrchu i'r Adran Drafnidiaeth ariannu seilwaith rheilffyrdd gwell ac i Lywodraeth Cymru ariannu gwasanaethau rheilffyrdd gwell.
"Byddwn ni'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno Metro Gogledd Cymru a rhwydwaith ffyrdd gwell.
"Bydd ein cynigion hefyd yn eistedd ochr yn ochr â rhaglenni Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i wella cysylltedd digidol a di-wifr yn y rhanbarth."
Bydd y Cais Twf ynghyd â chefnogaeth gan lywodraethau i wella trafnidiaeth a chysylltedd digidol yn sbarduno twf economaidd, sicrhau bod buddion yn cael eu dosbarthu'n deg ar draws y rhanbarth ac yn helpu i gadw pobl ifanc yn y rhanbarth.