Edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau israddedig i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig

WGU Logo
WGU ten years

Stereophonics yw'r prif berfformwyr mewn cyngerdd o bwys yn stadiwm y brifysgol yn yr haf

1 Mawrth 2016

stereo glyndwr

Y Stereophonics fydd prif berfformwyr cyngerdd o bwys yn Stadiwm Cae Ras Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yr Haf yma.

Yn perfformio gyda’r rocwyr o Gymru Ddydd Sadwrn, 2 Gorffennaf y mae Catfish a'r Bottlemen sydd wedi ennill Gwobr Brit a gwesteion arbennig eraill.

Mae disgwyl i hyd at 20,000 o bobl fynychu'r gig, yr un cyntaf ers i Motorhead a Twisted Sister berfformio yn y cae ras yn 1982.


Treuliodd y brifysgol a’i phartner VMS Live fisoedd yn trefnu'r digwyddiad gyda'r nod o gynnal diwrnod o gerddoriaeth fyw o'r radd flaenaf i’r rhanbarth..

Meddai Lynda Powell, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: "Mae hyn wedi cymryd llawer o amser ac ymdrech gan VMS Live a ninnau ond rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y perfformwyr gwych hyn yn ymddangos yma yn ystod yr haf.

"Mae'n fwy na 30 mlynedd ers i'r stadiwm gynnal cyngerdd felly mae cael enw mawr fel Stereophonics, a sêr ar eu cynnydd fel Catfish a'r Bottlemen, yn gamp fawr i ni.

"Rydym yn gobeithio mai’r sioe hon fydd y gyntaf o nifer o sioeau byw fydd yn digwydd yn y stadiwm dros y blynyddoedd nesaf wrth i'n perthynas â VMS Live dyfu’n gryfach."

Ychwanegodd: "Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i ddod â mwy o enwau mawr i Wrecsam, felly cewch wybod mwy yn y man."

Gyda’u gwerthiant gyrfa o 10 miliwn o albymau, mae gan y Stereophonics haf prysur iawn o’u blaenau gyda 10 dyddiadau wedi eu trefnu eisoes, gan gynnwys un o'r prif slotiau yng Ngwyl Ynys Wyth ym mis Mehefin.

Mae'r cerddorion o Landudno Catfish and the Bottlemen yn dathlu buddugoliaeth yng Ngwobrau Brit yr wythnos diwethaf, ar ôl derbyn gwobr am y Band Newydd Gorau,  a dywedon nhw eu bod “yn gyffrous iawn” i fod yn chwarae yn y sioe yn Wrecsam.

Yr artistiaid fydd y rhai cyntaf i chwarae gig byw yn y stadiwm ers Gŵyl Wrecsam 1982, pan wnaeth y rocwyr trwm chwedlonol Motorhead, Budgie, Tank, Raven, Orion a Twisted Sister yn chwarae eu cerddoriaeth yng nghartref clwb pêl-droed y dre.

Mae'r Stereophonics - Kelly Jones yn canu a chwarae'r gitâr, Richard Jones ar y bas, Adam Zindani ar y gitâr a Jamie Morrison ar y drymiau - yn cael ei ystyried yn un o fandiau gorau'r wlad, ac mae eu halbwm rhif 1 o fri diweddaraf, Keep The Village Alive, yn cynnwys senglau poblogaidd diweddar fel C'est La Vie, I Wanna Get Lost With You a Song for the Summer.

Mae tocynnau'n mynd ar werth ddydd Gwener am 9am. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.stereophonics.com neu wefan digwyddiadau'r brifysgol sydd newydd ei lansio www.glyndwr.ac.uk/en/events

Top