Mae’r dudalen hon yn rhoi sylw i’r broses ymgeisio ar gyfer graddau PhD ac MPhil. Os ydych yn meddwl gwneud cais am MRes, bydd angen ichi ddilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a addysgir.

Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn naill ai gradd ymchwil ôl-raddedig amser llawn neu ran amser, gyda’r dyfarniad arfaethedig mewn Meistr Athroniaeth (MPhil) neu Ddoethur Athroniaeth (PhD). Os mai PhD yw’r dyfarniad targed, y disgwyliad arferol yw y bydd pob myfyriwr yn cofrestru yn y lle cyntaf ar gyfer MPhil. Gellir gwneud eithriadau pan fo ymgeisydd eisoes wedi ennill dyfarniad doethur neu gywerth mewn pwnc perthnasol.

Noder mai Prifysgol Caer yw ein corff dyfarnu ar gyfer graddau ymchwil.

Mae cofrestriadau Ymchwil Ôl-raddedig fel arfer yn digwydd ddwywaith y flwyddyn ym mis Chwefror a mis Medi ond cysylltwch â mphil-phdadmissions@glyndwr.ac.uk i drafod cyfleoedd cofrestru.

Cyn ichi wneud cais

Cyn ichi wneud cais fe’ch cynghorir i gysylltu yn y lle cyntaf â’r Ganolfan Ymchwil  berthnasol/Prif Oruchwyliwr arfaethedig, i sefydlu a yw’r arbenigedd a’r gallu goruchwylio angenrheidiol ar gael ar gyfer eich prosiect penodol. Mae’n ddefnyddiol darparu cynnig amlinellol ar y pwynt hwn gan ddefnyddio’r canllawiau.

Mae’n bwysig iawn eich bod yn cysylltu’n anffurfiol â’r adran o’ch dewis cyn cwblhau cais. Os na allwch ddod o hyd i’r manylion ar gyfer eich maes pwnc ar ein gwefan, gall Gweinyddiaeth Myfyrwyr eich cyfeirio at berson priodol.

Content Accordions

Mae’n bwysig iawn eich bod yn cysylltu’n anffurfiol â’r adran o’ch dewis cyn cwblhau cais. Os na allwch ddod o hyd i’r manylion ar gyfer eich maes pwnc ar ein gwefan, gall Gweinyddiaeth Myfyrwyr eich cyfeirio at berson priodol.

Mae’n bur debyg y bydd y goruchwyliwr am drafod eich cynnig gyda chi, felly dylech ystyried beth hoffech chi ei drafod, er enghraifft:

  • Yr hyn wyddoch chi am ymchwil cyfredol yn eich maes
  • Eich ymchwil blaenorol yn y maes hwn ac unrhyw bosibilrwydd o ran Cydnabod Dysgu Blaenorol
  • Bylchau yn y llenyddiaeth ymchwil gyfredol
  • Y rôl rydych yn ei rhagweld ar gyfer goruchwyliwr eich gwaith – eich disgwyliadau
  • Cefndir a diddordebau ymchwil cyfredol y goruchwyliwr
  • Faint o amser mae eich goruchwyliwr yn ystyried sy’n briodol i’w neilltuo ar gyfer eich prosiect
  • Yr amgylchedd ymchwil yn adran eich goruchwyliwr
  • Pa gyfleusterau y gallai fod eu hangen arnoch o bosib, ac a fydd y rhain ar gael yn rhwydd ar eich cyfer

Sut i wneud cais

Os byddwch yn penderfynu gwneud cais am radd ymchwil ôl-raddedig, ar y lefel hon o astudiaeth, bydd angen i’r Brifysgol ystyried yn ofalus a oes goruchwyliaeth ac adnoddau digonol ar gyfer eich maes astudio arfaethedig. Bydd pob myfyriwr yn cael tîm goruchwylio a fydd yn cynnwys o leiaf dau aelod o staff academaidd; bydd o leiaf un yn arbenigwr pwnc yn eich maes ymchwil arfaethedig. 

Ni fedrwn ystyried eich cais heb ddau dystlythyr priodol, ynghyd â’r holl ddogfennau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer eich cais, sy’n cynnwys:

Gofynnwn ichi sicrhau eich bod yn hysbysu eich canolwyr cyn cyflwyno eich cais, oherwydd unwaith iddo gael ei gyflwyno bydd y system yn cysylltu â’ch canolwyr yn awtomatig ar eich rhan.

Dylech wneud cais drwy un o'r dolenni canlynol, yn dibynnu ar y lefel a'r dull astudio yr hoffech ei wneud:

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau cyn gwneud cais ar-lein, mae croeso ichi gysylltu â ni drwy e-bost ar mphil-phdadmissions@glyndwr.ac.uk neu drwy ffonio +44 (0)1978 293063.

Ar ôl i chi wneud cais

Mae’r tîm Cyfadran perthnasol yn ystyried pob cais, a’n nod yw darparu ymateb i’ch cais cyn pen pedair wythnos. A wnewch chi sicrhau eich bod yn ymateb i geisiadau am wybodaeth bellach cyn gynted ag y bo modd i’n galluogi i wneud hynny. 

Os oes diddordeb yn eich prosiect ymchwil arfaethedig a bod gan y Brifysgol yr adnoddau ar gyfer eich maes astudio, fe’ch gwahoddir i gyfweliad gyda’ch tîm goruchwylio arfaethedig a Chadeirydd annibynnol. Gellir cynnal y cyfweliad drwy ddulliau electronig ac fel rheol mae’n anffurfiol.

Bydd angen i’r Deon Cysylltiol dros Ymchwil, Is-bwyllgor Graddau Ymchwil y Brifysgol adolygu argymhelliad eich panel cyfweld, a bydd angen ceisio cymeradwyaeth derfynol gan Brifysgol Caer fel ein corff dyfarnu graddau ymchwil.

O fod yn llwyddiannus, ein nod yw danfon llythyr o gynnig cyn pen 4-6 wythnos o ddyddiad y cyfweliad.

Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw beth, mae croeso ichi e-bostio Gweinyddiaeth Myfyrwyr ar mphil-phdadmissions@glyndwr.ac.uk.