Ymchwil sy’n trawsnewid.

Mae ymchwil Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn canolbwyntio ar effeithio ar ddatblygiad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Boed hynny’n lleol neu’n rhyngwladol, ar raddfa fach neu fawr, mae’r pwyslais bob tro ar ddatrys problemau a chyfrannu at anghenion go iawn.

 
World Heritage Site, Pontcysyllte aqueduct

“Mae pobl sy'n byw gyda dementia yn dioddef yn ddyddiol o stigma a rhwystrau eraill. Mae hyn oherwydd bod yr amgylchedd o'u cwmpas yn anghyraeddadwy a thrwy hynny hyrwyddo meddylfryd “aros gartref” iddynt. Fe allai twristiaeth chwarae rhan allweddol mewn lles meddyliol pobl sy'n dioddef o ddementia, yn ogystal â'r rhai o'u cwmpas. Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar sut mae cyrchfannau a darparwyr gwasanaethau lletygarwch yn gallu creu twristiaeth sy'n gyfeillgar i ddementia.”

Marcus Hansen Darlithydd mewn Twristiaeth, Teithio a Digwyddiadau Rheoli
A student using a laptop

Ymchwil ar-lein

Mae allbynnau cyhoeddedig o’n hymchwil ar gael ar-lein. 

A fine art student painting

“Er mwyn deall pa anghenion hyfforddi sydd eu hangen ar artistiaid sydd yn gweithio ym maes gofal iechyd, mae’n rhaid inni’n gyntaf ddeall sut mae eu hymarfer yn gweithredu yn y lleoliad yma. I wneud hyn, mae fy ymchwil wedi mabwysiadu dulliau ymchwil ansoddol drwy gyfweliadau lled-strwythuredig ac arsylwadau ethnograffig gydag artistiaid yn gweithio yn y maes, gan ddadansoddi’r data wedi hynny drwy theori ag iddi sail gadarn, a dadansoddiad thematig.”

Anthony Jackson  Cynorthwydd Dysgu Graddedig - Hyfforddi a Datblygu yn y Celfyddydau ym maes Iechyd