Mike Miles
Uwch Ddarlithydd, Ysgrifennu Creadigol
Hanes yw cefndir Mike yn wreiddiol. Enillodd ei BA a’i ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Birmingham, gan gyhoeddi nifer helaeth o erthyglau mewn cyfnodolion ac antholegau academaidd ar ei brif destun ymchwil: trosedd a’r proffesiwn cyfreithiol yn Lloegr y ddeunawfed ganrif.
Yn 1982 enillodd ei dystysgrif dysgu, ac wedi gyrfa hir ym maes rheoli addysg, gadawodd i ddilyn ei ddiddordeb mewn ysgrifennu creadigol. Mae wedi gwerthu ei waith i’r BBC a Channel 4 ac yn agos at orffen dwy nofel, y ddwy ar themâu hanesyddol.
Mae ffuglen gyfoes hefyd yn ddiddordeb iddo, ac mae’n bwriadu ysgrifennu fersiwn fodern o Oliver Twist. Cafodd ei ysgrifennu gryn argraff ar asiant llenyddol blaenllaw yn Llundain sydd bellach yn cynrychioli ei waith ar y farchnad agored.
Cyn ymuno â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam, bu Mike yn bennaeth Saesneg yng Ngholeg Yr Amwythig.
Ymunodd Mike ag Adran Dyniaethau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn 2004 ac mae’n rhannu ei amser rhwng dysgu ac ysgrifennu.
BA (Anrh) Hanes Canoloesol a Modern
Ph.D mewn Hanes
TAR
Tair nofel:
An Uncommon Attorney, 2014
Dark Satanic Mill, 2015
Eagle and the Lady-Killer, 2016
Y ddeunawfed ganrif hir: c.1660-1820
Gwir a’r Gau mewn Hanes
Ysgrifennu Ffuglen Hanesyddol a Dyfaliadol