GDPR Cookie Consent by Free Privacy Policy

Dydy hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais - Edrychwch ar ein cyrsiau ar gyfer mynediad mis Medi 2019.

WGU Logo
WGU ten years

Dr Bo Liu

Darllenydd mewn Cynllunio Drwy Gymorth Cyfrifiadur

Staff Profile

Dr Bo Liu

Ystafell: B122

ffôn:

+44(0)1978 293542

e-bost:

b.liu@glyndwr.ac.uk

Derbyniodd Bo Liu radd BSc o Brifysgol Tsinghua, Tseina, ym 2008 a gradd PhD o Katholieke Universiteit Leuven, Gwlad Belg, ym 2012. O Hydref 2012 roedd yn Gymrawd Ymchwil Humboldt yn gweithio gyda Phrifysgol Dechnegol Dortmund, Yr Almaen.

Ym 2013 cymrodd safle parhaol fel darlithydd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Fe’u dyrchafwyd i Ddarllenydd mewn Cynllunio Drwy Gymorth Cyfrifiadur ym 2016. Mae ei ddiddordebau yn cynnwys technegau deallusrwydd cyfrifiannu ar gyfer awtomatiaeth dyluniad peirianneg, dyluniad trydanol/electronig/electro-mecanyddol ac awtomatiaeth dyluniad, a rhyngweithiad dynol-gyfrifiadurol ar gyfer meddalwedd peirianneg.

Mae Bo Liu yn awdur neu gydawdur un llyfr a mwy na 40 papur mewn siwrnalau rhyngwladol clodfawr a thrafodion cynhadledd. Mae ar y bwrdd golygyddol neu yn adolygydd yn y meysydd deallusrwydd artiffisial ac awtomatiaeth dyluniad electronig ar gyfer mwy na 20 siwrnal rhyngwladol, cynadleddau a chyhoeddwyr.

PhD mewn peirianneg electronig

BSc (Anrh) Gwyddoniaeth Cyfrifiadur

BSc (Anrh) Deallusrwydd Artiffisial

MSc Robotics

Deallusrwydd Artiffisial

Deallusrwydd Artiffisial Uwch

Meddwl Cyfrifiannu

Cloddio Data Cymwysedig

Mathemateg Uwch

Tudalen Google Scholar

 

Technegau Deallusrwydd Cyfrifiannu ar gyfer Awtomatiaeth Dyluniad Peirianneg

  • Cyfrifiannu esblygiadol
  • Optimeiddiaeth wedi’i yrru gan efelychu
  • Optimeiddiaeth sy’n ymwybodol o sŵn/ansicr/cadernid
  • Optimeiddiaeth aml-amcan rhyngweithiol

Dysgu peiriant a chloddio data

  • Modelu’n seiliedig ar y Broses Gaussiaidd
  • Rhwydwaith niwral artiffisial
  • Peiriant cefnogi fector
  • Dysgu gweithgar

Rhesymeg niwlog a gwneud penderfyniadau

  • Gwneud penderfyniadau aml-briodoledd ac aml-maen prawf niwlog
  • Optimeiddiaeth ansicr niwlog

Dyluniad trydanol/electronig/electro-mecanyddol ac Awtomatiaeth Dyluniad

  • Awtomatiaeth dyluniad cylched gyfannol a dyfais amledd uchel
  • Maintioli cylched analog-integredig wedi’i awtomeiddio
  • Maintioli  cylched analog-integredig dibynadwyedd-ymwybodol
  • Optimeiddiaeth dyluniad antenna
  • Optimeiddiaeth dyluniad hidl
  • Optimeiddiaeth dyluniad systemau micro-electro-mecanyddol
  • Optimeiddiaeth dyluniad systemau biofeddygol

Rhyngweithio Dynol-Cyfrifiadurol ar gyfer Meddalwedd Peirianneg

  • Dyluniad rhyngwyneb defnyddiwr graffeg ar gyfer offer dylunio dyfais electromagnetig
  • Dyluniad rhyngwyneb defnyddiwr graffeg ar gyfer offer dylunio analog a signal-cymysg
  • Dyluniad rhyngwyneb defnyddiwr graffeg ar gyfer offer dylunio systemau mecanyddol
  • Dyluniad rhyngwyneb defnyddiwr deallus
Top