
Gwybodaeth ar gyfer
rhieni
Rydym yn cydnabod y rhan y byddwch yn ei chwarae i helpu i ddewis y brifysgol orau ar gyfer eich mab neu'ch merch. Mae'r broses bontio o'r ysgol neu'r coleg yn heriol nid yn unig i lawer o fyfyrwyr, ond i rieni hefyd.
Yn y rhan fwyaf o achosion byddant yn sefyll ar eu gwadnau eu hunain am y tro cyntaf, felly mae'n bwysig ichi wybod y byddwn ni'n eu cefnogi o'r funud y byddant yn cyrraed tan raddio a thu hwnt, wrth iddynt fynd i fyd gwaith a dilyn yr yrfa o'i dewis.
Mae'r dudalen hon wedi'i neilltuo'n ganolbwynt i rieni, i ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych ac i gynnig cyfleoedd ichi adeiladu'ch profiad PGW eich hunan.
Dewis cwrs

Mae gennym amrywiaeth eang o raddau ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam - porwch drwy ein A-Y i gael hyd i gwrs addas.
Manylion
Sut i wneud cais

Dyddiadau cau UCAS, datganiadau personol, llythyrau cynnig ....darganfod mwy am gefnogi'ch plentyn drwy'r broses ymgeisio
Manylion
Ffioedd a Chostau

Mae llawer o rieni'n darparu cymorth ariannol i'w plentyn pan fyddant yn y brifysgol. Darganfod mwy am y ffioedd a'r costau cysylltiedig
Manylion

Cymorth i fyfyrwyr

Mae Glyndwr Wrecsam yn cynnig rhwydwaith cymorth hanfodol i fyfyrwyr, sy'n rhoi tawelwch meddwl ichi pan fyddant oddi cartref
Manylion
Myfyrwyr Rhyngwladol

Mae Glyndwr Wrecsam yn croesawu myfyrwyr o bedwar ban byd - darganfod mwy o wybodaeth sy'n berthnasol i'n myfyrwyr rhyngwladol
Manylion
Newyddion a Barn

Digwyddiadau, ymchwil, straeon am lwyddiannau ein myfywyr...darganfod mwy am yr hyn sy'n digwydd ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam.
Manylion