
Ein llwyddiant
Cyflogadwyedd Rhagorol
Rydyn yn sicrhau bod ein cyrsiau sydd â ffocws ar yrfaol yn aros yn ddiweddar ac yn berthnasol i alwedigaethau drwy ein perthynas aith agos gyda busnes a diwydiant. Mae profiad ymarferol a'r cyfle i gymhwyso gwybodaeth yn rhan fawr o'n cyrsiau ac mae hyn ynghyd â'n gwasanaeth gyrfaoedd cefnogol, yn golygu bod ein graddedigion yn cael y cychwyn gorau yn eu gyrfaoedd.
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yw'r Sefydliad Addysg Uwch gorau yng Nghymru ar gyfer graddedigion sy'n sicrhau cyflogaeth* yn yr arolwg Canlyniadau Graddedigion diweddaraf.
Arwain y Ffordd
Mae'r Brifysgol yn agored i arloesedd a syniadau, ac mae'n cynhyrchu ymchwil o'r radd flaenaf a phrosiectau ymchwil a datblygu arloesol. Un o'i llwyddiannau mwyaf nodedig oedd gwaith y tîm yng Nghanolfan OpTIC yn Llanelwy yn gloywi drychau prototeip ar gyfer telesgop £900m mwyaf y byd.
Mae'r Brifysgol yn gweithio ochr yn ochr â chewri byd-eang, gan gynnwys Toyota, Tata Steel, Airbus a'r BBC, yn ogystal â chwmnïau gweithgynhyrchu ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam, un o barciau busnes mwyaf yn Ewrop.
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yw'r Sefydliad Addysg Uwch gorau yng Nghymru ar gyfer graddedigion sy'n sicrhau cyflogaeth* yn yr arolwg Canlyniadau Graddedigion diweddaraf.

Cymorth i Fyfyrwyr
Mae'r Brifysgol yn hyrwyddo cynhwysiant ac roedd yn seithfed yn y DU ac rhif un yng Nghymru o ran cynorthwyo myfyrwyr o gefndiroedd anhraddodiadol i swyddi proffesiynol, yn ôl Mynegai Symudedd Cymdeithasol Graddedigion . Rydym hefyd yn enwog am ein gofal a'n cymorth o fyfyrwyr anabl, yn enwedig y rhai sydd â dyslecsia a syndrom Irlen.
Cafodd ein Hundeb y Myfyrwyr ei enwi'n Undeb y Myfyrwyr Bach ac Arbenigol UCM Cymru y Flwyddyn 2016, ac roedd yn ail-orau yn y DU.
Bodlonrwydd Myfyrwyr
Datgelodd canlyniadau diweddaraf yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr fod 87% o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn fodlon ar yr addysgu ar eu cwrs. Roedd y sgoriau hyn yn gweld Glyndwr yn rhagori ar gyfartaleddau'r DU a Chymraeg yn y graddfeydd 'addysgu ar fy nghwrs', 'asesu ac adborth', 'cymorth academaidd', 'cymuned ddysgu', 'llais myfyrwyr' ac 'Undeb y Myfyrwyr'.**
Rhoddodd ymatebwyr o un ar ddeg o gyrsiau ym Mhrifysgol Glyndŵr sgôr Boddhad Cyffredinol o 90% neu fwy, gyda phedwar cwrs wedi'u sgorio ar 100%.** Roedd y brifysgol ar y brig ar y cyd yn y DU ac ar y brig yng Nghymru am Foddhad Cyffredinol ym meysydd pwnc Animeiddio Hanes a Chyfrifiaduron a Gemau.**
Rhoddodd ymatebwyr o un ar ddeg o gyrsiau ym Mhrifysgol Glyndŵr sgôr Boddhad Cyffredinol o 90% neu fwy, gyda phedwar cwrs wedi'u sgorio ar 100%.** Roedd y brifysgol ar y brig ar y cyd yn y DU ac ar y brig yng Nghymru am Foddhad Cyffredinol ym meysydd pwnc Animeiddio Hanes a Chyfrifiaduron a Gemau.**
PGW hefyd oedd y brifysgol orau yng Nghymru ar gyfer Boddhad Cyffredinol mewn Animeiddio Cyfrifiaduron a Gemau, Cwnsela, Seicotherapi a Therapi Galwedigaethol, Gwyddorau Fforensig ac Archaeolegol, Hanes, Nyrsio (Heb fod yn Benodol), meysydd pwnc Gwaith Cymdeithasol a Chymdeithaseg, ac mewn dau faes pwnc – Gwyddorau Fforensig ac Archaeolegol a Nyrsio (Amhenodol) – roedd ar y brig yng Nghymru ar draws pob graddfa.**
Yn ogystal, mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi cyrraedd y safleoedd ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2021 am flwyddyn arall.

Rhan o'r Gymuned
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn chwarae rhan weithgar yn ei chymuned o gefnogi busnesau a sefydliadau yn y rhanbarth i ymchwil, prosiectau a syniadau cydweithredol ac agor ei chyfleusterau fel adnodd cymunedol megis Canolfan Chwaraeon Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a'r Feithrinfa Ddydd Ysgolheigion Bach.
Mae gan y Brifysgol y ganolfan darganfod gwyddoniaeth, Techniquest Glyndŵr hefyd ar y campws ac mae ganddi ran fawr yn Stadiwm Cae Ras Prifysgol Glyndŵr sy'n gartref i Glwb Pêl-droed Wrecsam a thîm rygbi'r gynghrair Croesgadwyr Gogledd Cymru.
Ar ben hyn mae dros 50,000 o bobl yn defnyddio cyfleusterau cynadledda y brifysgol ar ei gampysau bob blwyddyn ac mae amrywiaeth eang o berfformwyr yn perfformio yn ei lleoliadau cyngherdda drwy gydol y flwyddyn.
* Dadansoddiad WGU o Ystadegau Canlyniadau Graddedigion Addysg Uwch: DU, 2017/18. Mae 'graddedigion' yn ymgorffori israddedigion ac ôl-raddedigion amser llawn a rhan-amser, o bob dominl ac mae'n cynnwys astudiaeth interim sylweddol.
** Dadansoddiad WGU o ddata'r NSS sydd heb ei gyhoeddi.