
Bywyd Nos
Yn dref brysur yn y dydd, gyda'r nos mae Wrecsam yn dod yn fyw gyda llwyth o ddewisiadau ar gyfer, yfed, dawnsio a chymdeithasu.
Barau a thafarndai
Y bar agosaf yw'r Llew Diog yn adeilad Undeb y Myfyrwyr. Tu hwnt i'r campws, mae gan ganol y dref ddewis enfawr o dafarndai'n amrywio o dai cwrw traddodiadol i barau mwy cyfoes yn dangos chwaraeon yn fyw, i gyd o fewn pellter cerdded fer o'i gilydd.

Clybiau Nos
Mae sin gerddoriaeth Wrecsam wedi bywiofi yn ystody blynyddoedd diwethaf, a mae yna nosweithiau glwb gret i'r mwynhau.
Atik yw clwb nos fwyaf Gogledd Cymru, yn gallu dal mwy na 1600 o bobl mewn dwy ystafell. Mae nosweithiau thema amrywiol y clwb yn rheolaidd cynnwys DJs ac ymddangosiadau cyhoeddus mwyaf enwog y DU.
Mae Central Station/Live Rooms yn cynnal ystod eang o nosweithiau glwb ochr yn ochr â'u digwyddiadau cerddoriaeth byw.
Cerddoriaeth Byw
Os yw cerddoriaeth byw at eich dant chi ni chewch chi'ch siomi. Disgrifwyd Caentral Station gan yr Independent a Kerrang fel prif leoliad cerddoriaeth byw Cymru ac mae bandiau'n cynnwys Enter Shikari, Kasabian, Biffy Clyro, The Levellers a Bloc Party wedi chwarae yno.
Mae hefyd yn un o brif leoliadau Focus Wales, gŵyl a chynhadledd gerddoriaeth sy'n cynnwys perfformiadau gan fwy na 100 band o gwmpas y dref.
Mae William Aston Hall, neuadd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, yn cynnal cerddoriaeth byw yn aml, gyda chyngherddau gan Feeder, The Levellers, The Proclaimers are UB40 ymysg eraill.

Tu Hwnt i Wrecsam
Os am adfywio'ch bywyd nos tu hwnt i Wrecsam, yna Caer yw'r lle agosaf. Mae gwasanaethau bys a thrên rheolaidd i'r ddinas a bydd tacsi ddim yn rhy ddrud wrth rannu a ffrindiau.
Mae'r ddinas yn fywiog iawn ar y penwythnos gyda'r barau ffasiynol a'r tafarndai traddodiadol sy'n llenwi’i strydoedd ar agor tan oriau man y bore.