
Neuadd Snowdon
Mae Neuadd Snowdon yn llety pwrpasol i fyfyrwyr yn nhref Wrecsam. Mae'n adeilad cryno sy'n cynnwys amrywiaeth o ystafelloedd en-suite yn bennaf mewn clystyrau o fflatiau 6-gwely.
Mae pob ystafell yn helaeth, yn darparu popeth sydd ei angen arnoch fel myfyriwr, man astudio, cwpwrdd dillad a silffoedd a gwely cyfforddus. Hefyd, mae gennych chi eich ystafell ymolchi eich hun felly fydd dim angen ichi giwio yn y boreau.
Mae'r llety'n dod gyda rhenti hollgynhwysol, gan gynnwys yswiriant cynnwys a DiWi am ddim, felly nid oes angen i chi boeni am unrhyw gostau annisgwyl.
Mae'r safle yn ddim ond 10 munud ar droed o'r prif gampws ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam ac mae wedi'i leoli'n berffaith yn agos i fwytai, bariau a lleoliadau adloniant y dref, yn ogystal â Pharc Manwerthu Y Werddon.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech wneud cais i aros yn Neuadd Snowdon, cysylltwch â nhw yn uniongyrchol trwy eu gwefan www.studentroost.co.uk/locations/wrexham neu e-bostiwch Snowdon.hall@studentroost.co.uk gyda'ch holl fanylion a gofynion.
Fel arall ffoniwch +44(0) 1978 265799
