Gwasanaeth  Cynhwysiant

Ym Mhrifysgol Wrecsam rydym yn credu y dylai addysg uwch fod ar gael i bawb, ac rydym yn ymdrechu i ddarparu'r hygyrchedd gorau posibl i fyfyrwyr anabl. Y llynedd, roedd 25% o'n myfyrwyr yn derbyn LMA (Lwfans Myfyrwyr Anabl) felly gallwch fod yn sicr o gyrraedd eich potensial gyda'r gefnogaeth sydd ar gael yma.   

Os ydych yn gwybod eisoes y gallai fod gennych anghenion unigol yn sgil anabledd, cyflwr meddygol, neu wahaniaeth dysgu penodol, megis dyslecsia, neu os byddwch yn sylweddoli fod arnoch angen cefnogaeth pan fyddech yn dechrau astudio gyda ni – rydym yma i helpu. Mae yna ystod o wasanaethau i’ch helpu o’r adeg y byddwch yn dewis datgelu anabledd neu wahaniaeth dysgu.

Mae ein Tîm AnAbledd yn cynnig apwyntiadau os ydych yn dymuno trafod unrhyw faterion yn ymwneud â chefnogaeth dysgu neu anabledd, yn anffurfiol ac yn gyfrinachol.

Gallwn helpu i drefnu i chi:

  • Ddarganfod a oes gennych wahaniaethau dysgu, megis dyslecsia

  • Cael gafael ar gefnogaeth un-i-un gan diwtor

  • Cyfarfod â mentor iechyd meddwl

  • Wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA) os ydych yn gymwys

Datgelu anabledd

Gallwch ddatgelu anabledd unrhyw adeg yn ystod eich astudiaethau ac fe allech fod yn gymwys i wneud cais am LMA (Lwfans Myfyrwyr Anabl).

Os byddwch yn profi anawsterau yn ystod eich astudiaethau ac yn meddwl efallai mai anabledd neu wahaniaeth dysgu megis dyslecsia yw’r rheswm am hyn, rydym yn eich annog i ddod i’n gweld ni am gyngor.   

Dyma rai o’r meysydd yr ydym yn cynnig cyngor yn eu cylch: anawsterau symud, diffygion synhwyraidd (e.e. anawsterau gweld neu glywed), anawsterau iechyd meddwl (e.e. pryder, iselder, PTSD), cyflyrau niwroamrywiol (e.e. dyslecsia, AD(H)D, ASC), a chyflyrau anweledig ac afiechydon hirdymor (e.e. epilepsi, clefyd siwgr, ffibromyalgia). Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr felly cofiwch gysylltu â ni os nad ydych yn siŵr.

Cynlluniau Dysgu Unigol

Weithiau gall pethau tu hwnt i’ch rheolaeth amharu ar eich astudiaethau. Gall ein tîm eich helpu i sefydlu cynllun dysgu a allai gynnwys dyddiadau cau addasedig, tiwtorialau ychwanegol neu newidiadau i drefniadau arholiadau megis amser ychwanegol, neu ddefnyddio offer.   

Os gennych unrhyw angenion dysgu, fel dyslecsia, fe allwch gael arbenigwr un i un i gefnogi'ch astudiaethau. Mae hyn er mwyn cynnig strategaethau sy'n addas i'ch steil dysgu chi. Gallwch hefyd ddod ag aseiniadau i weithio drwyddynt gyda thiwtoriaid. Ond nid yw'n cynnig cefnogaeth pwnc penodol. Gall eich DSA argymell awr neu ddwy'r wythnos trwy'r flwyddyn academaidd. 

Cefnogaeth a mentora iechyd meddwl

Nodir problemau iechyd meddwl fel un o’r rhesymau mwyaf cyffredin dros fyfyrwyr yn tynnu’n ôl o gyrsiau prifysgol yn y DU. Mae Prifysgol Wrecsam yn ymroddedig i weithio gyda myfyrwyr a allai brofi anawsterau iechyd meddwl er mwyn eu galluogi i gyflawni eu potensial.

Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar y meddwl, emosiynau ac ymddygiad yn aml.

O ran cefnogaeth fe allem gynnig:

  • Mentora Iechyd Meddwl

  • Cefnogaeth un-i-un gan diwtor

  • Cymorth gan Gynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu

  • Trefniadau arholiadau unigol

  • Cyfarwyddyd wrth wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA)

    Cynigir ein cefnogaeth i gyd yn fewnol ac nid ydym yn defnyddio gweithwyr asiantaeth.

 

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth am gymorth anabledd, cysylltwch â ni: