Edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau israddedig i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig - dewch i'n diwrnod agored nesaf i ddarganfod mwy.

WGU Logo
WGU ten years

Ian
BA Cyfathrebu Dylunio ac Animeiddio
1990



Gadewais i Brifysgol Glyndwr Wrecsam yn 1990, (Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI) ar y pryd). Astudiais cyfathrebu dylunio ac animeiddio.  Cefais fy cyfle cyntaf i fynd i'r diwydiant ar gynhyrchiad The Thief and the Cobbler ac yna es i i Awstralia i weithio ar Goof Troop Disney TV cyn gweithio ar hysbysebion teledu yn  Catflap Animation.

Rwy'n gweithio i stiwdio cynhyrchu Cutting Edge, a leolir yn Awstralia, ers 14 mlynedd. Mi wnes i helpu i ddylunio'r prif fasgot I koala-ty a dod â'i gymeriad yn fyw. Fel cyfarwyddwr animeiddio rwy'n gyfrifol am arwain y tîm o artistiaid talentog Cutting Edge o ddechrau i ddiwedd cynhyrchiad.

Arweiniais i dîm o artistiaid i greu masgot Gemau Cymanwlad yr Arfordir Aur 2018 – Borobi, coala glas sy'n gwneud newyddion cenedlaethol yn Awstralia.  Cafodd cysyniad gwreiddiol Borobi ei ddewis o gystadleuaeth. Dyfarnwyd y contract inni i ddod â dyluniad enillydd y cystadleuaeth masgot i fyw. Gan weithio gydag asiantaeth yn Brisbane, SAPIENT Nitro, addason ni'r cynllun i ymgorffori hanes Borobi ac elfennau dylunio brodorol.

Yn anaml iawn dw i'n cael animeiddio y dyddiau hyn, ond yr wyf yn ei fwynhau pan fyddaf yn ei wneud. Gemau'r Gymanwlad oedd un o'r prosiectau hyn, prosiect mor bleserus o'r dechrau i'r diwedd.

Roedd yn gymaint o anrhydedd i weithio ar brosiect o bwys cenedlaethol gyda thîm talentog iawn.

Darganfyddwch mwy o wybodaeth am ein cyrsiau Cyfathrebu Dylunio, neu am fwy o wybodaeth am ein hamrywiaeth o gyrsiau o fewn Ysgol y Celfyddydau Creadigol, ewch i'r dudalen yr ysgol.

Joinffurffleni Astudiaethau Achos Cyn-fyfyrwyr
Top