
Cymorth astudio
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn llawn o gyfleusterau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu i lwyddo yn eich astudiaethau - o'r cyfleusterau pwnc i fannau ar gyfer astudio tawel a'r adnoddau i ymgymryd ag ymchwil.
Cyfleusterau TG
Mae gennym gyfleusterau cyfrifiadurol rhagorol sydd wedi eu lleoli yn agos at ble rydych eu hangen. Mae yna gyfleusterau â meddalwedd cwrs pwrpasol o fewn meysydd pwnc yn ogystal â chyfleusterau mynediad agored cyffredinol yn y llyfrgell ac mewn mannau astudio o gwmpas y campws. Mae buddsoddiad diweddar wedi ehangu ein mynediad WiFi di-wifr ar draws y campws cyfan, gan gynyddu'r mannau lle gallwch astudio.
Mae gan ein cyfrifiaduron fynediad llawn i'r rhyngrwyd ac rydym yn darparu ystod o wasanaethau ichi megis eich cyfrif e-bost eich hun, lle storio ffeiliau, cymwysiadau safonol ac arbenigol a chyfleusterau argraffu.
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i'r eithaf. Mae gennym fewnrwyd cynhwysfawr i fyfyrwyr sy'n cynnwys amrywiaeth o gyngor ac arweiniad. Mae llawer o nodiadau darlith ein cyrsiau a chynnwys rhaglenni ar gael ar-lein trwy ein Hamgylchedd Dysgu Rhithiol ac mae deunyddiau astudio megis cronfeydd data ar-lein, e-gyfnodolion a gwybodaeth catalog y llyfrgell hefyd ar gael ar-lein.
Mae ein desg gymorth TG wrth law i roi cymorth a chyngor ar bob agwedd ar gyfrifiadura gan gynnwys caledwedd, meddalwedd a mynediad i'r rhwydwaith.
Costau Argraffu
DaG A4 | un ochr 5c/y ddwy ochr 10c |
DaG A3 | un ochr 10p/ y ddwy ochr 20c |
Lliw A4 | un ochr 15p/ y ddwy ochr 30c |
Lliw A3 | un ochr 30p/ y ddwy ochr 60c |
Rhwymo crib (heb gynnwys argraffu) | £2 |
Rhwymo metel (heb gynnwys argraffu) | o £2.50 Bloc aur £25 |
LamineiddioA4/A3 | 80c/£1.60 |
Am fwy o wybodaeth am gyfleusterau a chefnogaeth TG, cysylltwch â'r ddesg gymorth TG ar 01978 293241.
Y Llyfrgell ac Astudio
Mae llyfrgell Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cynnig amrywiaeth eang o adnoddau gwybodaeth i gefnogi'ch astudiaethau mewn amgylchedd dysgu cysurus a hyblyg.
Mae gennym dros 100,000 o lyfrau, DVDau ac adnoddau dysgu eraill yng Nghanolfan Edward Llwyd ar gampws Plas Coch Wrecsam.
Mae ein Darganfyddydd Adnoddau yn gwneud miloedd o e-lyfrau a chyfnodolion electronig ar gael yn rhwydd i fyfyrwyr yn ogystal ag ystod o ffynonellau gwybodaeth o ansawdd eraill ar y rhyngrwyd.

Gall ein tîm gynnig cyngor ac arweiniad i'ch helpu i ddod o hyd i'r adnoddau yr ydych yn chwilio amdanynt ar gyfer eich astudiaethau, o ddod o hyd i lenyddiaeth ar gyfer aseiniadau a thraethodau estynedig a chwilio cronfeydd data pwnc penodol i'ch cefnogi i ddefnyddio e-Lyfrau ac e-Gyfnodolion a chymorth ar sut i fireinio eich chwiliad.
Taliadau’r Llyfrgell
Benthyciad 4 awr | £2 am bob awr mae’n hwyr |
Benthyciad 24 awr | £2 y llyfr y dydd |
Benthyciad 7 diwrnod | £1 y llyfr y dydd |
Benthyciad 3 wythnos | 30c y llyfr y dydd |
Os hoffech chi gael y newyddion diweddaraf o Lyfrgell Prifysgol Glyndŵr Wrecsam edrychwch ar ein blog.
Cysylltu â ni
Llyfrgell Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Pwynt Post 22L, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam LL11 2AW
Adnewddu benthyciad: library@glyndwr.ac.uk neu 01978 293237 (Peiriant ateb 24 awr) (gadewch eich enw a rhif cod bar y llyfrgell wrth adnewyddu eitemau)
Siopau
Mae nifer o siopau ar gampysau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, gyda phob un yn arbenigo mewn cynnyrch neilltuol i ddiwallu eich anghenion. Mae yna hefyd nifer o siopau ar-lein a all eich helpu i brynu popeth o docynnau i ddigwyddiad i lyfrau ail-law.
Mae Caffi a Safle Adwerthu Pennod 1 yng Nghanolfan Edward Llwyd ar Gampws Plas Coch. Mae'r siop 'hanfodion' a chaffi yn gwerthu dewis eang o nwyddau gan gynnwys coffi a the arbenigol, diodydd oer, brechdanau, byrbrydau ysgafn a melysion. Mae yna hefyd ystod bach o eitemau bwyd ac ymolchi cyffredinol.
Mae'r Siop Gelf wedi'i lleoli yn Ysgol y Celfyddydau Creadigol, ac mae'n gwerthu amrywiaeth eang o gynnyrch celf a dylunio sy'n cael eu cefnogi gan brisiau cystadleuol, ansawdd uchel a gwasanaeth personol cyflym. Mae'r siop hefyd yn cynnig gwasanaeth llun-gopïo a rhwymo.

BooksXChange - os ydych yn dymuno prynu gwerslyfrau eich cwrs, mae BooksXChange yn siop ar-lein am ddim a weithredir gan Prifysgol Glyndwr Wrecsam i helpu myfyrwyr i brynu a gwerthu llyfrau ail-law. Mae'r system ar-lein yn darparu gwasanaeth tebyg i e-bay ar gyfer llyfrau heb yr oedi, y risg a'r costau postio.
Ystafell Argraffu – Wedi'i lleoli yn Undeb y Myfyrwyr mae'r gwasanaethau argraffu'n cynnwys llungopïo, lamineiddio, rhwymo a gwneud llyfrynnau. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth rhwymo caled ar gyfer traethodau hir am brisiau cystadleuol iawn.
Gallwch hefyd archebu rhai nwyddau ac offer defnyddiol ar-lein.
Mae gwasanaeth ffotocopio ac argraffu hunanwasanaeth ar gael yng Nghanolfan Edward Llwyd sy'n gweithio drwy ddefnyddio credydau llungopïo sy'n cael eu rhoi ar eich cerdyn llyfrgell trwy ddefnyddio'r peiriant ail-lenwi hunanwasanaeth.
Cymorth Academaidd
Mae Prifysgol Glyndwr Wrecsam wedi ymrwymo i'ch gefnogi chi i wireddu'ch potensial.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cefnogi mewn meysydd fel ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gallwch drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol o gymorth mathemateg, rheoli amser, ysgrifennu academaidd, cyfeirnodi Harvard a sgiliau TG.
Unwaith y byddwch yn cofrestru ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam, byddwch hefyd yn cael mynediad i gyfoeth o ddeunydd ar-lein a chanllawiau i'ch helpu i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl yn ystod eich amser gyda ni.
Y Ganolfan Iaith
Mae ein Ganolfan Iaith yn cynnig cyrsiau iaith Saesneg drwy gydol y flwyddyn academaidd i bob myfyriwr rhyngwladol ac Ewropeaidd i'w helpu i ddatblygu ac adeiladu ar eu sgiliau yn yr iaith Saesneg. Mae hefyd yn cynnig cyrsiau byr mewn ieithoedd eraill, a phob un o'r pedair sgil ieithyddol - gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu - yn cael eu cynnwys.
Mae'r Ganolfan yn cynnig rhaglen Saesneg Dwys ar gyfer myfyrwyr Rhyngwladol a myfyrwyr Ewropeaidd sydd angen sgiliau iaith Saesneg ychwanegol cyn cychwyn ar eu cwrs. Gellir cael mwy o wybodaeth yn IELC.
Mae ysgolion haf Saesneg ysgolion haf Saesneg yn ffordd arall o ddod i adnabod y brifysgol ac i ymdoddi yn yr iaith a'r diwylliant yn ystod mis Gorffennaf a/neu fis Awst.
Ar ben hynny, mae'r Ganolfan yn cynnal amrywiaeth gyffrous o gyrsiau iaith dramor ar lefelau o ddechreuwyr i uwch, ac mae'r cyrsiau yn agored i bob myfyriwr. Mae'r rhain yn cael eu cynnig mewn amrywiaeth gynyddol o ieithoedd megis Tsieinëeg (Mandarin), Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Siapanaeg, Rwsieg, a Sbaeneg.
Mae cyrsiau modiwlaidd yn werth 20 credyd AU y DU (10 ECTS) a dyfernir trawsgrifiad Prifysgol Glyndwr Wrecsam i bob myfyriwr llwyddiannus.
Cysylltwch â
Dr. Leila Luukko-Vinchenzo (Pennaeth y Ganolfan Iaith)
Ffôn: 01978 293553
E-bost: l.luukkovinchenzo@glyndwr.ac.uk

Y Gymraeg
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ymroddedig i ehangu ei ddarpariaeth addysgol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Brifysgol yn falch o'i gwreiddiau Cymreig ac yn cydnabod pwysigrwydd adlewyrchu iaith a diwylliant gogledd ddwyrain Cymru.
O dan yr amodau y Cynllun Iaith Gymraeg, mae'r Brifysgol yn cynnig ei holl wasanaethau gweinyddol yn ddwyieithog. Pan fyddwch yn cofrestru, gofynnir i chi nodi ym mha iaith yr hoffech chi dderbyn gohebiaeth gan y brifysgol.
Mae'r Brifysgol hefyd yn awyddus i ehangu a datblygu ei darpariaeth Gymraeg. Mae gan fyfyrwyr ar bob cwrs yr hawl i gyflwyno gwaith sydd yn rhan o asesiad trwy gyfrwng y Gymraeg ac i sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni o flaen llaw os ydych yn dymuno cyflwyno asesiadau yn y Gymraeg.
Rydym hefyd yn darparu amrediad o ddosbarthiadau iaith a chymorth personol i fyfyrwyr sy'n dymuno datblygu eu sgiliau Cymraeg. Am ragor o fanylion am y dosbarthiadau Cymraeg a chymorth i fyfyrwyr Cymraeg cysylltwch â Julie Brake, Uwch Ddarlithydd yn y Gymraeg, 01978 293118, e-bost j.brake@glyndwr.ac.uk
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn gartref hefyd i gangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gallwch ddod yn aelod o'r gangen, sy'n gyfrifol am ddatblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.
Mae'r gangen yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau gwahanol drwy'r flwyddyn ac mae'n gweithio gyda'n Hundeb y Myfyrwyr i drefnu digwyddiadau Cymraeg. Mae'r gangen hefyd yn ganolbwynt gwych ichi ddod i adnabod siaradwyr Cymraeg eraill yma yn y Brifysgol.
Cysylltwch â
Sioned Roberts
Swyddog Cangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol
01978 293183
Ebost: glyndwr@colegcymraeg.ac.uk