
Ein campysau a’n cyfleusterau
Mae campysau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn adlewyrchu ein harbenigeddau yn ogystal â bod yn gartref i amrywiaeth o gyfleusterau i ddiwallu anghenion myfyrwyr - mae gennym bopeth at eich anghenion astudio ac adloniant. Mae gan bob campws ei gymeriad, hunaniaeth a phwrpas arbennig ei hun, ac yn ased i nid yn unig ein poblogaeth o fyfyrwyr, ond hefyd ei chymuned a'r busnesau yn y rhanbarth.
Campws Wrecsam

Ein campws mwyaf a lle dechreuodd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn 2008….neu 1887, os ydych yn olrhain yn ôl drwy ein hanes.
Darganfod mwy
Campws Llaneurgain

Cartref y brifysgol ar gyfer addysg tir a gwledig sy'n ganolfan ar gyfer cyrsiau ar astudiaethau anifeiliaid a bioamrywiaeth.
Darganfod mwy
Campws Llanelwy

Yn dwyn ynghyd y byd academaidd a diwydiant, mae gweithgareddau yn Llanelwy yn canolbwyntio ar dechnoleg optoelectroneg lefel uchel.
Darganfod mwy

Bar y Myfyrwyr

Ein Bar y Myfyrwyr, Clwb y Canmlwyddiant, yw canolbwynt adloniant y myfyrwyr ac mae'n lle gwych i gymdeithasu.
Darganfod mwy
Adloniant

Mae Prifysgol Glyndwr Wrecsam wastad yn fwrlwm o weithgareddau a digwyddiadau - felly ni fyddwch yn brin o bethau i'w gwneud pan fyddwch yn astudio yma.
Darganfod mwy
Bwyd a Diod

Mae amrywiaeth o fannau arlwyo ar draws ein campysau lle gall myfyrwyr fwyta, yfed, ymlacio a chymdeithasu.
Darganfod mwy
.jpg)
Chwaraeon

Mae ein canolfan chwaraeon, sy'n un o'r pri leoliadau chwaraeon yng Ngogledd Cymru, wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau chwaraeon mawr ac mae'n ased i'r brifysgol a'r gymuned leol.
Darganfod mwy
Techniquest Glyndwr

Mae Techniquest Glyndŵr yn ganolfan darganfod gwyddoniaeth ymarferol yn Wrecsam, Gogledd Cymru gyda dros 75 o arddangosion rhyngweithiol a rhaglen newidiol o sioeau gwyddoniaeth byw.
Darganfod mwy
Oriel

Mae Oriel Sycharth yn dangos amrywiaeth eang o ddisgyblaethau a chyfryngau i ysbrydoli ac ennyn diddordeb ein myfyrwyr a'r gymuned ehangach.
Darganfod mwy