
Sut i gael hyd inni
Mae prif gampws Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ei leoli ar gyrfion Canol Tref Wrecsame. Ein cyfeiriad a'n côd post yw:
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Ffordd yr Wyddgrug
Wrecsam
LL11 2AW
Teithio ar y heol
O'r M56, gadael y draffordd ar Gyffordd 15 lle mae'n ymuno â'r M53 i Gaer/Wrecsam [Chester/Wrexham].
O'r M53, ewch ar hyd yr A55 gan gymryd yr allanfa â'r arwyddbost A483 i Wrecsam.
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi'i lleoli ychydig llathrenni o Gyffordd 5 yr A483 sydd â'r arwyddbost Wrecsam/yr Wyddgrug.
Dilynwch yr arwyddion am Ganol Tref Wrecsam a byddwch chi'n gweld y Brifysgol ar eich chwith.
Dylai defnyddwyr Satnav ddefnyddio brif gôd post y Brifysgol.
Edrych ar Brifysgol Glyndŵr Wrecsam ar Google Maps
Teithio ar y trên
Mae'n hawdd dod i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam ar drafnidiaeth gyhoeddus - y gorsafoedd rheilffordd agosaf yw:
- Wrecsam Gyffredinol: Ar bwys y Brifysgol - taith o ychydig funudau ar droed i'r brif gampws
- Wrecsam Ganolog: Taith o 10 munud ar droed o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam
- Caer: 20 munud i ffwrdd mewn car/tacsi
Teithio ar y bws
Mae gwasanaethau bws lleol yn rhedeg i'r brif derfynfa fysiau yng Nghanol y Dref - sy'n daith o 10 munud ar droed o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam. Mae bysiau National Express a gwasanaethau pellter hir eraill hefyd yn stopio yma.
Teithio o feysydd awyr
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ond yn daith 45 munud mewn car/tacsi o feysydd awyr Manceinion Ryngwladol a Liverpool John Lennon.
Llywio'r Campws
Wrexham Campus (Plas Coch) map
Noder, os ydych chi'n ymweld ar ddiwrnod agored bydd arwyddion a Llysgenhadon Prifysol i'ch helpu i gael hyd i'r lleoedd iawn. Cofestrwch am ein diwrnod agored nesaf yma.