Edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau israddedig i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig - dewch i'n diwrnod agored nesaf i ddarganfod mwy.

WGU Logo
WGU ten years
Cyflwyniad i gwnsela

Cyflwyniad i gwnsela

Trosolwg

Fel proffesiwn, mae cwnsela wedi ehangu'n aruthrol dros y 20 mlynedd diwethaf gyda chydnabyddiaeth gynyddol o werth cymorth proffesiynol a'r cymorth y gall ei ddarparu i bobl yn y cartref ac yn y gweithle.

I gydnabod yr angen cynyddol hwn, mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi lansio modiwl 'Cyflwyniad i Gwnsela’. 

I wneud cais ar gyfer y cwrs hwn cwblhewch y ffurflen gais hon.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn efallai y byddwch yn dymuno mynd ymlaen i Dip HE Cwnsela a Seicotherapi

Yr hyn y byddwch yn ei astudio

Mae'r cwrs yn cyflwyno beth yw cwnsela yn union, gan gynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau gwrando sy'n fuddiol ac sy'n gallu cael eu defnyddio mewn ystod eang o leoliadau gwaith a chymdeithasol.

Caiff pobl sydd â diddordeb mewn hyfforddiant proffesiynol fel cwnselwr, defnyddio sgiliau cwnsela mewn proffesiynau eraill a'r bobl hynny sy'n dymuno gwella eu hunan-ddatblygiad a'u sgiliau gwrando yn cael eu harfogi â'r sgiliau angenrheidiol i lwyddo yn y llwybr o'u dewis. 

Mae'r cwrs hefyd yn rhoi cipolwg ar hanes cwnsela ac mae'n helpu i ddatblygu neu adnewyddu sgiliau rhyngbersonol a chwnsela allweddol.

Cyfleoedd Gyrfaol

Nod y cwrs yw bod o fudd i bobl a all fod yn ystyried hyfforddiant proffesiynol pellach fel cwnselwr, pobl sydd â diddordeb mewn ystyried y defnydd o sgiliau cwnsela mewn proffesiynau eraill a'r bobl sydd â diddordeb mewn hunan-ddatblygu a mireinio eu sgiliau gwrando.

Addysgu ac asesu

Gall addysgu gynnwys cyflwyniadau gan staff, gwaith pâr a gwaith grwpiau bach a gweithgareddau dosbarth cyfan megis trafod syniadau, darllen ac astudio unigol, ymarfer ac adborth sgiliau gwrando mewn grwpiau bach, ac arsylwi fideo lle y bo'n briodol.

Mae'r asesu ar Lefel 4 ac mae iddo 2 agwedd: 

  • Traethawd 1250 o eiriau yn dangos gwybodaeth am ddatblygiad cwnsela a'r lleoliadau lle gall cwnsela gael ei gynnig a'r hyn y gall cwbsela obeithio ei gyflawni.
  • Adroddiad ysgrifenedig o 750 o eiriau yn seiliedig ar fyfyrio ar ddatblygu sgiliau gwrando yn ystod y cwrs, gan ystyried cryfderau personol a meysydd i'w datblygu. Mae rhoi a derbyn adborth i ac oddi wrth fynychwyr eraill y cwrs yn rhan bwysig o'r cwrs.

Dylai'r bobl hynny sy'n dymuno ymgymryd ag astudiaeth fwy sylweddol ystyried y Ddiploma Addysg Uwch mewn Cwnsela a Seicotherapi Person-Ganolog a Phrofiadol, sy'n gwrs israddedig rhan-amser dros 2 flynedd. 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Efallai y bydd yn ddefnyddiol bod gennych gymwysterau lefel 2 (TGAU) gan fod astudio ar y lefel hon yn gofyn am sgiliau darllen a sgiliau ysgrifennu.  Bydd y bobl sy'n ystyried gwneud cais yn ei chael yn fanteisiol i feddu ar brofiad gwaith a bywyd i helpu i roi'r cwrs mewn cyd-destun.

Mae mynychwyr yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd ac oedran. Mae amrywiaeth yn cael ei groesawu.

I logi lle cwblhewch y ffurflen gais ganlynol.

Hyd y cwrs

Mae hwn yn gwrs 10 wythnos sy'n digwydd un noson yr wythnos, 6-9pm. 

4 Hydref 2018 - 20 Rhagfyr 2018

10 Ionawr 2019 - 21 Mawrth 2019                           

2 Mai 2019 - 4 Gorfennaf 2019 

Ffioedd

Y ffi am y cwrs 10 wythnos yw £295.

Adnoddau ychwanegol

Bydd angen i chi gael mynediad i'r llyfrgell a defnyddio safle ‘Moodle’ y Brifysgol i gael gafael ar adnoddau electronig. Bydd angen ichi ymgymryd â darllen ac astudio pellach tu allan i amser addysgu'r cwrs.

Byddwch yn derbyn llawlyfr modiwl ar ddechrau'r cwrs.

Noswaith Agored y BrifysgolDiwrnod Agored y Brifysgol
Top