Y llwybr llawn amser (1 flwyddyn) sef y Dystysgrif Broffesiynol i Raddedigion mewn Addysg a'r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg fydd dau ddiwrnod o 'gyflwyniad a addysgir' drwy'r flwyddyn academaidd. Mae'r opsiwn rhan-amser, sef pob un o'r tri llwybr, dros ddwy flynedd. Mae myfyrwyr yn mynychu un diwrnod yr wythnos (1-6pm) am ddwy flynedd a byddant yn cwblhau tri modiwl 20 credyd ym mlwyddyn 1 a thri modiwl 20 credyd ym mlwyddyn 2.
Yn ogystal â mynychu ac astudio yn y Brifysgol, bydd angen i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth eu bod wedi cwblhau 100 awr o addysgu annibynnol am hyd y rhaglen lawn-amser dros un flwyddyn neu'r rhaglen rhan-amser dros ddwy flynedd.
Modiwlau:
Tystiolaeth mewn Addysg:
- Yr Ymarferydd Adfyfyriol (L4, Craidd)
- Paratoi i Addysgu mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (L4, Craidd)
- Cysylltu Damcaniaethau Dysgu, Addysgu ac Asesu (L4, Craidd)
- Cyfoethogi Dysgu drwy Ymarfer Creadigol ac Arloesol (L5, Craidd)
- Y Gweithiwr Proffesiynol Adfyfyriol (L5, Craidd)
yn ogystal ag un modiwl dewisol
- Materion Cyfoes mewn PcET (L5, Dewisol)
- ADY ac Ymarfer Cynhwysol (L5, Dewisol)
Tystysgrif Broffesiynol i Raddedigion mewn Addysg:
- Yr Ymarferydd Adfyfyriol (L6, Craidd)
- Paratoi i Addysgu mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (L6, Craidd)
- Cysylltu Damcaniaethau Dysgu, Addysgu ac Asesu (L6, Craidd)
- Cyfoethogi Dysgu drwy Ymarfer Creadigol ac Arloesol (L6, Craidd)
- Y Gweithiwr Proffesiynol Adfyfyriol (L6, Craidd)
yn ogystal ag un modiwl dewisol
- Materion Cyfoes mewn PcET (L6, Dewisol)
- ADY ac Ymarfer Cynhwysol (L6, Dewisol)
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg:
- Yr Ymarferydd Adfyfyriol (L6, Craidd)
- Paratoi i Addysgu mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (L6, Craidd)
- Cysylltu Damcaniaethau Dysgu, Addysgu ac Asesu (L6, Craidd)
- Cyfoethogi Dysgu drwy Ymarfer Creadigol ac Arloesol (L7, Craidd)
- Y Gweithiwr Proffesiynol Adfyfyriol (L7, Craidd))
yn ogystal ag un modiwl dewisol
- Materion Cyfoes mewn PcET (L7, Dewisol)
- ADY ac Ymarfer Cynhwysol (L7, Dewisol)
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Tystysgrif mewn Addysg (PcET): Dylai fod gan ymgeiswyr gymhwyster lefel 3 o leiaf yn eu disgyblaeth bwnc.
Tystysgrif Broffesiynol i Raddedigion mewn Addysg: Dylai fod gan ymgeiswyr radd.
Tystysgrif Ôl-raddedig Broffesiynol mewn Addysg : Mae gofyn bod gan ymgeiswyr radd gyda dosbarthiad o Cyntaf neu 2:1.
Mae gofyn bod gan ymgeiswyr GDG cyfredol yn ei le cyn iddynt gychwyn ar y rhaglen ac mae rhaid bod ganddynt fynediad i leoliad addysgu priodol.
Gwneud cais am y cwrs
Os ydych yn gwneud cais fel myfyriwr Cartref neu’r Undeb Ewropeaidd, dylech wneud eich cais trwy’r ffurflen gais uniongyrchol. Mae fersiwn bapur ar gael ar gais gan y Tîm Ymholiadau a Derbyn.
Os byddwch yn gwneud cais fel Myfyriwr Rhyngwladol, dylech chi gyflwyno'ch cais drwy ein system gwneud cais ar-lein, Centurus. Byddwch hefyd yn gallu tracio'ch statws gwneud cais a derbyn eich llythyr cynnic a'ch llythyr CAS yma.
Ar gyfer rhai modiwlau, bydd angen ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, felly mae rhaid i chi gael cliriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) (a elwir yn CRB gynt). Bydd rhaid i chi dalu'r ffi briodol, fel y gellir gwirio'ch addasrwydd i weithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu'n dymuno cael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, ei ofynion mynediad neu'r proses gwneud cais, cysylltwch â'n Tîm Ymholiadau a Derbyn.
Byddwch yn ymgymryd ag aseiniadau ymarferol drwy gydol y cwrs. Mae tîm y cwrs yn agored i ddefnydd creadigol strategaethau asesu sy'n hwyluso a chefnogi arddulliau dysgu dysgwyr. Mae arsylwadau tiwtoriaid, mentoriaid a chymhreiriaid yn rhan annatod o'r rhaglen.
Mae'r strategaethau asesu yn cynnwys:
- Efelychiad Meicroaddysgu
- Blogiau adfyfyriol
- Traethawd
- Adroddiad
- Adolygiad llenyddiaeth
- Poster academaidd
Mae addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn faes sy'n datblygu ac yn ehangu’n gyflym ac, yn sgil y gofyniad am gymhwyster addysgu proffesiynol wedi’i ardystio, mae bellach yn sefydlu llwybrau dilyniant gyrfa clir yn y sector yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer astudiaethau uwch pellach.
Mae'r gwasanaeth Gyrfaoedd a'r Zon ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cynogor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy'n astudio ar ein campws Plas Coch aros ym Mhentref Wrecsam, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.