MODD LLAWN-AMSER (Myfyrwyr sy'n cychwyn ym Mis Medi)
Cyflwynir yr elfen a addysgir, Rhan Un o'r rhaglen, mewn dau trimester o 12 wythnos. Mae pob trimester yn werth 60 credyd.
Bydd y chwe modiwl a addysgir yn cynnwys darlithoedd a thiwtorialau/gwaith ymarferol bob wythnos. Bydd yr amserlen ddisgwyliedig i bob modiwl yn gyfanswm o 200 awr, sy'n cynnwys 40 awr o oriau dysgu ac addysgu sydd wedi'u hamserlennu a 160 o oriau astudio annibynnol.
Bydd Rhan Dau yn cymryd 15 wythnos arall ac mae iddi amser astudio tybiannol o 600 awr. Yn ystod y cyfnod hwn bydd y myfyriwr yn gyfrifol am reoli ei amser ei hun mewn ymgynghoriad â'r goruchwyliwr academaidd.
MODD LLAWN AMSER (Myfyrwyr sy'n cychwyn ym Mis Ionawr)
Bydd myfyrwyr sy'n dechrau yn y Brifysgol ym mis Ionawr yn astudio tri modiwl arbenigol yn ystod yr ail drimester o fis Ionawr i fis Mai. Bydd y myfyrwyr yn astudio'r tri modiwl cyffredin arall yn ystod trimester cyntaf y flwyddyn academaidd nesaf o fis Medi i fis Ionawr.
Ar ôl cwblhau'r rhan o'r rhaglen a addysgir yn llwyddiannus bydd y myfyrwyr yn mynd ymlaen i Ran Dau, traethawd hir yr MSc a gyflwynir ym mis Ebrill/Mai
MODD RHAN -AMSER
Cyflwynir yr elfen a addysgir, sef rhan un o'r rhaglen dros ddwy flynedd o addysgu academaidd. Cyflwynir 80 credyd neu gyfwerth o fodiwlau yn y flwyddyn gyntaf a 40 o gredydau neu gyfwerth yn yr ail flwyddyn. Bydd y myfyrwyr rhan-amser yn ymuno â'r cyflwyno llawn-amser gyda darlithoedd a thiwtorialau/gwaith ymarferol yn ystod un diwrnod yn wythnosol.
Bydd elfen y traethawd hir (h.y. Rhan Dau) yn cychwyn yn nhrimester 2 gan gymryd 30 wythnos arall. Mae gan Rhan 2 amser astudio tybiannol o 600 awr. Yn ystod y cyfnod hwn bydd y myfyriwr yn gyfrifol am reoli ei amser mewn ymgynghoriad â goruchwyliwr academaidd.
Mae'r meysydd astudio'n cynnwys:
- Dulliau Ymchwil Peirianneg ac Astudiaethau Ôl-raddedig
- Dylunio ac Arloesi Peirianegol
- Modelu ac Efelychu Systemau Peirianneg
- Uwch Ddeunyddiau Cyfansawdd
- Cyfanrwydd Strwythurol ac Optimeiddio
- Aerodynameg Gymhwysol a Mechaneg Hedfan
- Traethawd Hir
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gradd anrhydedd gydag o leiaf dosbarth 2:2 neu gyfwerth mewn disgyblaeth beirianneg briodol neu brofiad proffesiynol perthnasol.
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol ewch i dudalen gwledydd a dewis eich gwlad i weld y gofynion academaidd a Saesneg perthnasol.
Gwneud cais am y cwrs
Os ydych yn gwneud cais fel myfyriwr Cartref neu myfyriwr o'r Undeb Ewropeaidd, dylech chi wneud eich cais drwy ddefnyddio'r ffurflen gais uniongyrchol. Mae'r ffurflen hon yn ffeil PDF y gellir ei golygu a gallwch ei chwblhau'n electronig neu ar bapur ar fersiwn argraffedig. Mae fersiwn papur ar gael ar gais o'r Tîm Ymholiadau a Derbyn.
Os byddwch yn gwneud cais fel Myfyriwr Rhyngwladol, dylech chi gyflwyno'ch cais drwy ein system gwneud cais ar-lein, Centurus. Byddwch hefyd yn gallu tracio'ch statws gwneud cais a derbyn eich llythyr cynnic a'ch llythyr CAS yma.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu'n dymuno cael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, ei ofynion mynediad neu'r proses gwneud cais, cysylltwch â'n Tîm Ymholiadau a Derbyn.
Cewch eich asesu trwy gydol eich cwrs drwy amryw o ddulliau gan gynnwys portffolios, cyflwyniadau ac, ar gyfer rhai pynciau, arholiadau.
DYSGU AC ADDYSGU
Mae'r dulliau addysgu'n cynnwys darlithoedd, sesiynau labordy, seminarau a arweinyr gan fyfyrwyr ac ymchil gan gyfarwyddyd.
Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig o bob modiwl, gan ei fod yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pwnc-benodol a'u sgiliau allweddol.
Mae dysgu annibynnol yn cael ei hyrwyddo drwy astudio dan arweiniad neu'r adborth a roddir i fyfyrwyr.
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ymroddedig i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y mwyaf o'u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cefnogi mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, llunio nodiadau effeithio a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yn helpu i fynd i'r afael ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Cewch fwy o wybodaeth ar ein hadran cymorth i fyfyrwyr.
Mae'r cwrs yn eich cyfarparu â gwybodaeth drylwyr a sgiliau mewn peirianneg sydd ar flaen y gad pan ddaw i dechnolegau newydd a'r rhai sy'n dod i'r amlwg. Bydd gan raddedigion y fantais o ddod yn arbenigwyr yn y diwydiant neu i fynd ar drywydd gyrfaoedd ymchwil yn y byd academaidd.
Mae'r gwasanaeth Gyrfaoedd a'r Zon ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cynogor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Bydd y ffioedd y byddwch yn eu talu'n dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy’n astudio yn ein campws Ffordd Yr Wyddgrug ddewis rhwng Pentref Wrecsam neu Neuadd Snowdon, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.