Bydd yn rhaid i ymgeisydd bodloni, neu gyfuniad, o’r amodau canlynol:
Bod yn berchen ac un o’r canlynol cyn i’r rhaglen ddechrau:
- Gradd anrhydedd Prifysgol Glyndŵr neu gorff arall sydd yn dyfarnu gradd, hefo o leiaf 2:2 gyda chynnwys digonol o Wyddoniaeth Fforensig, Troseddeg, Archaeoleg, Anthropoleg neu Fywydeg.
- Cymwysterau cyfatebol o dramor, a ddyfarnir yn foddhaol gan dîm y rhaglen.
Gall rhai sydd heb raddio cael eu derbyn fel ymgeiswyr ar yr amod fod ganddynt:
- Cymhwyster nad yw’n radd, y mae’r Brifysgol yn ei dyfarnu’n foddhaol ar gyfer mynediad ôl-raddedig.
- Profiad gwaith ar lefel sydd yn digolledu diffyg cymwysterau ffurfiol, ac wedi cael swydd o gyfrifoldeb yn y sectorau Fforensig Archeolegol neu Blismona am isafswm o dair blynedd.
*Bydd myfyrwyr a sgoriodd llai na 60% (neu’n cyfateb i 2:1) yn eu traethodau hir Students who have scored less than 60% (or 2.1 equivalent) israddedig (neu gyfateb) yn derbyn cynnig, ar yr amod eu nod nhw’n cwblhau’r cwrs Ymbaratoi at Lwyddiant Academaidd.
Mewn achos lle mae diffyg eglurder, neu os oes rhaid cael mewnwelediad dyfnach i briodoldeb ymgeisydd ar gyfer y rhaglen, gellir cynnal cyfweliad ffurfiol, ar Skype neu dechnoleg cyfathrebu pellter hir arall.
Bydd hyn yn gyfle’r ymgeisydd i ddarparu tystiolaeth i fodlondeb panel o’i gallu i gwblhau gwaith academaidd o’r safon ofynnol.
Gall darpar fyfyrwyr hefyd gwneud cais am Gydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) yn erbyn modylau penodol, ynghyd a rheoliadau Brifysgol Glyndŵr.
Gall myfyrwyr sydd eisoes yn astudio PGDip mewn Anthropoleg a Bioarchaeoleg yn Athrofa Gwyddoniaeth a Dyniaethau Cyprus wneud cais am ‘Top-Up’ Mhres trwy statws uwch. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Cyfarwyddwr Rhaglen (Amy.Rattenbury@Glyndwr.ac.uk).
Ni fydd angen gwiriad DBS fel rheol. Mewn rhai amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd yn gwneud lleoliad neu brosiect ymchwil (traethawd hir) gael DBS perthnasol.
Er enghraifft, os ydynt yn gweithio mewn ysgolion, ysgolion maes neu amgueddfeydd lle ellir bydd angen cysylltiad hefo plant neu bobl fregus.
Mae’r myfyriwr yn gyfrifol am ganfod yr ofyniad hefo’r sefydliad allanol perthnasol o flaen llaw ac i gysylltu â’r Ganolfan Rhaglenni Myfyrwyr I sicrhau bod y gwiriad yn cael ei chwblhau cyn cychwyn y lleoliad neu’r ymchwil.
Mi fydd y brifysgol yn talu am unrhyw wiriadau DBS sydd eu hangen i gwblhau’r rhaglen.
Bydd y cwrs yn cael ei darparu trwy ddysgu cymysg, hynny yw y bydd dysgu yn y dosbarth ac ar-lein, tiwtoriaid gwadd, tiwtorialau a gweithdai labordy.
Mae hyn yn golygu y gall myfyrwyr deithio o bell i astudio rhaglen, heb orfod byw yn Wrecsam, ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r rhai sydd eisiau gweithio wrth astudio.
Mae pob modiwl yn cynnwys adnoddau ar-lein fel fideos, erthyglau, cwisiau, wefannau, byrddau trafod ayyb, a ganfyddir trwy’r lle modiwl ar Moodle), cyfarfodydd cymorth tiwtor a, lle mae’n berthnasol, gweithdai ymarferol.
Bydd myfyrwyr hefyd yn cwblhau 100 awr o weithgaredd lleoliad mewn diwydiannau perthnasol, fell: labordai, ysbytai, amgueddfeydd, ysgolion maes, sefydliad addysg neu’r heddlu. Gall lleoliadau fod yn daledig neu wirfoddol ac yn llawn amser, rhan amser neu ad-hoc, cyn belled â’u bod yn caniatáu amser digonol i gwblhau asesiadau cyn diwedd trimester dau. Nid oes gyfyngiad ar ble mae’r lleoliad ac mi anogir myfyrwyr i archwilio ystod eang o bosibiliadau, gan gynnwys rolau rhyngwladol. Darparir y cwrs trwy gyfrwng y Saesneg.
Mae gan fyfyrwyr yr hawl i gyflwyno asesiadau yn y Gymraeg. Anogir myfyrwyr hefyd i ddewis lleoliadau sydd yn cefnogi’r Gymraeg lle mae’n berthnasol ac mae modd gwneud.
Defnyddir amrywiaeth o strategaethau asesiad adolygol, gan gynnwys arholiad ymarferol, portffolio, adroddiadau, cyflwyniadau llafar a phoster, logau ymchwil a dysgu. Maent wedi cael eu cynllunio i adlewyrchu anghenion byd gwaith ac i ddatblygu technolegau lle’n berthnasol. Bydd myfyrwyr yn derbyn asesiad ffurfiannol, yn enwedig yn ystod cyfnodau ymarferol ac astudio’n unigol y rhaglen i sicrhau y gallent ddilyn eu cynnydd a datblygiad.
Bydd myfyrwyr yn derbyn asesiad ffurfiannol, yn enwedig yn ystod cyfnodau ymarferol ac astudio’n unigol y rhaglen i sicrhau y gallent ddilyn eu cynnydd a datblygiad.
Gall myfyrwyr ar y rhaglen hon symud ymlaen i weithio mewn:
- Anthropoleg Fforensig
- Bioarchaeoleg
- Ysgerbydeg Dynol
- Gwyddoniaeth Fforensig a Safle Trosedd
- Archaeoleg Fasnachol
- Gwaith Dyngarol
- Amgueddfeydd a Threftadaeth
- Gwyddoniaeth Ymchwil
- Technoleg Labordy
- Addysg
Neu archwilio cyfleoedd ymchwil pellach fel astudio am PhD
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Ar gyfer 2020/21, bydd ffioedd hyfforddi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £7,000 y flwyddyn ar gyfer MRres Anthropoleg Fforensig & Bioarchaeoleg.
Lle mae’n briodol, rhoddir cyngor ar fentrau cyllid i gefnogi lleoliadau neu ymchwil yn y diwydiant fel GoWales ac Erasmus +
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy’n astudio yn ein campws Ffordd Yr Wyddgrug ddewis rhwng Pentref Wrecsam neu Neuadd Snowdon, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.