
Cyllid Ôl-raddedig
Myfyrwyr Cymru a'r UE
Mae myfyrwyr o Gymru a'r UE sy'n cofrestru ar radd Meistr yn cychwyn ym Medi 2020 yn gymwys ar gyfer hyd at £17,489 mewn cymysgedd o fenthyciadau a grantiau.
Mae benthyciad ddim yn seiliedig ar brawf modd ar gael i bob myfyriwr cymwys. Bydd swm y benthyciad yn gyfartal i'r holl gefnogaeth (£17,489) llai'r grant mae myfyriwr yn gymwys amdano.
Mae grant sylfaen ddim yn seiliedig ar brawf modd o £1,000 ar gael i bob myfyriwr cymwys.
Mae grant yn seiliedig ar brawf modd o £6,885 hefyd ar gael.
Gall myfyrwyr sydd yn cychwyn cwrs llawn neu ran-amser unrhyw le yn y DU ar neu ar ôl Awst 1, 2020, wneud cais am y benthyciad.
I fod yn gymwys rhaid i chi fod:
- Yn astudio am radd meistr a addysgir
- O dan 60 oed ar gychwyn blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
- Yn byw fel arfer yng Nghymru
- Yn astudio mewn prifysgol neu goleg yn y DU, neu drwy ddysgu o hirbell
Gallwch ddarganfod mwy drwy wylio'r fideo hwn gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Rhagor o wybodaeth i Fyfyrwyr Cymru
Myfyrwyr sy'n byw yn Lloegr
I fod yn gymwys am fenthyciad, mae rhaid eich bod chi:
- Yn astudio am radd meistr a addysgir
- O dan 60 oed ar gychwyn blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
- Yn byw fel arfer yn Lloegr
- Yn astudio mewn prifysgol neu goleg yn y DU, neu drwy ddysgu o hirbell
Mwy o wybodaeth ar gyfer Myfyrwyr o Loegr
I wirio os ydych yn medru cael cyllid myfyriwr ar gyfer eich cwrs yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, os gwelwch yn dda cysylltwch â'n tîm ffioedd a chyllid myfyrwyr.
Am fwy o wybodaeth ar ein rhaglenni ôl-raddedig, gwelwch ein hadran cyrsiau ôl-raddedig neu dewch i un o'n nosweithiau agored ôl-raddedig.
Cynllun Bwrsariaeth Cymhelliant Gradd Meistr a Addysgir Cymreig
£4,000 ar gyfer pobl 60+ yn byw yng Nghymru i astudio gradd meistr yng Nghymru yn 2020/21. Mae gennym nifer cyfyngedig o’r llefydd rhain ar gael a byddant yn cael eu clustnodi ar sail gyntaf i’r felin.
£2,000 ar gyfer myfyrwyr o unrhyw oed yn byw yng Nghymru i astudio gradd meistr mewn unrhyw bwnc gwyddoniaeth, technoleg, mathemateg neu feddygaeth (‘STEMM’). Mae gennym nifer cyfyngedig o’r llefydd rhain ar gael a byddant yn cael eu clustnodi ar sail gyntaf i’r felin.
Dyrannir bwrsariaethau ar sail y cyntaf i'r felin i ymgeiswyr cymwys fydd yn cael gwybod am eu cymhwystra cyn cofrestri. Nid oes broses ar wahân i'r bwrsariaethau - gosodir y disgownt yn awtomataidd wrth gofrestri.
Ysgoloriaeth Ôl-raddedig i Gynfyfyrwyr PGW
Mae'r Brifysgol yn cynnig cynllun ysgoloriaeth Ôl-raddedig i Gynfyfyrwyr ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig a addysgir ym mlwyddyn academaidd 2020/21.
I fod yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth, mae gofyn bod y darpar fyfyriwr gwrdd â'r gofynion mynediad ar gyfer y rhaglen astudio ôl-raddedig o'u dewis ac yn derbyn cynnig diamod ar gyfer mynediad i'r rhaglen honno cyn y dyddiad cau, yn ogystal ag amodau ymrestru a chofrestru.
Mae'r hepgor-ffioedd canlynol ar gael i raddedigion Prifysgol Glyndwr Wrecsam sydd am ymgymryd â rhaglen gradd a addysgir llawn-amser neu ran-amser ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam.
- 20% ar gyfer graddedigion sydd wedi cael gradd dosbrth cyntaf
- 20% ar gyfer graddedigion sydd â 2:1
- 20% ar gyfer graddedigion sydd â 2:2
DS: Nid yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n astudio mewn sefydliadau Rhyddfraint neu bartnerol
Sut i wneud cais: Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf Ysgoloriaeth Ôl-raddedig i Gynfyfyrwyr ac sydd wedi derbyn cynnig lle amodol neu ddi-amod ar raglen astudio ôl-raddedig yn derbyn yr ysgoloriaeth i gynfyfyrwyr yn otomatig ar ôl cofrestru. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses, defnyddiwch y manylioin cyswllt isod.
Mae telerau ac amodau yn berthnasol, gweler rheoliadau Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Prifysgol Glyndwr Wrecsam 2020/21 am ragor o wybodaeth.
Rhaid derbyn ceisiadau 2020/21 erbyn 31 Gorffennaf 2020.
Ariannu amgen ar gyfer cyrsiau Ôl-raddedig
Nawdd cyflogwyr
Mae llawer o raddedigion yn cychwyn astudiaethau ôl-raddedig yn syth ar ôl cwblhau eu gradd gyntaf. Ond mae hefyd yn bosibl dewis gohirio'ch astudiaethau pellach i ddyddiad diweddarach - fel hyn efallai y byddwch hyd yn oed yn ddigon ffodus i weithio i gyflogwr sy'n gallu talu - neu o leiaf ariannu'ch cwrs yn rhannol, yn enwedig os yw'r cwrs yn berthnasol i'ch dilyniant gyrfaol.
Gall cwrs ôl-raddedig a noddir gan gyflogwr fod yn drefniant delfrydol - cewch gyfle i gael cymhwyster a fydd yn gwella'ch gallu i wneud eich swydd ac a fydd yn helaethu'ch rhagolygon gyrfaol, a bydd eich cyflogwr yn elwa o gael gweithiwr â chymwysterau gwell, sy'n fwy cynhyrchiol ac yn meddu ar well cymhelliant.
Pethau allweddol i gytuno â'ch cyflogwr:
- Sut y caiff y ffioedd eu talu (a fyddwch chi'n gyfrifol am unrhyw un o'r costau?)
- Pwy fydd yn talu am eich deunyddiau astudio?
- Amser i ffwrdd ar gyfer dosbarthiadau, adolygu ac arholiadau
- A fydd yr amser iffwrdd hwn yn cael ei ddidynnu o'ch lwfans gwyliau?
- A fyddwch chi'n cael eich rhwymo i gytundeb. Os felly, pa mor hir ydyw?
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am opsiynau cyllido amgen