.jpg)
MRes
Ymchwil Clinigol Cymhwysol
ffocws
ar ymchwil clinigol a hyfforddiant i fwyhau gyrfaoedd o fewn GIC a'r sector iechyd
cyfuniad
perffaith o ddysgu wyneb-yn-wyneb a dysgu arlein
datblygu
sgiliau a gwybodaeth i ddilyn gyrfa ymchwil mewn meddygaeth glinigol a gofal iechyd
BL Mynediad: 2021
Hyd y Cwrs: 1 Fl (LlA) 2 Fl (RhA)
Cod y Sefydliad: G53
Lleoliad: Wrecsam
Mae'r rhaglen MRes Ymchwil Clinigol Cymhwysol wedi cael ei chynllunio at weithwyr proffesiynol gofal iechyd megis nyrsio, awdioleg, bydwreigiaeth, ffisiotherapi, seicoleg, radioleg a graddedigion gwyddorau meddygol sydd am gychwyn ar radd ymchwil sy'n canolbwyntio ar iechyd a chlefydau dynol. Gan hynny, mae'n arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn broffesiynol, a gymeradwyir yn allanol gan y Sefydliad Gwyddor Biofeddygol (IBMS).
Mae'r rhaglen hon yn arfogi graddedigion â'r sgiliau a'r wybodaeth bwnc-benodol sydd eu hangen i ddilyn gyrfa seiliedig ar ymchwil mewn meddygaeth a gofal iechyd clinigol. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ymchwil glinigol (e.e. archwiliadau, mesur canlyniadau clinigol, gwella ansawdd, ansoddol neu feintiol), ac mae'n darparu hyfforddiant delfrydol i fyfyrwyr sydd am wella eu gyrfaoedd yn y GIG a'r sector iechyd, neu sy'n dymuno symud ymlaen wedyn i raglen PhD, neu sydd ond yn dymuno ymgymryd â phrosiect ymchwil sylweddol (120 credyd) ar lefel gradd Meistr.
