.jpg)
MRes
Ymchwil Gwyddorau Biofeddygol Cymhwysol
mynediad
i'r offer diweddaraf yng Nghanolfan Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru
cyfuniad
perffaith o ddysgu wyneb-yn-wyneb ac arlein
datblygu
sgiliau a gwybodaeth i ddilyn gyrfa ymchwil mewn biofeddygol academaidd
BL Mynediad: 2021
Hyd y Cwrs: 1 Fl (LlA) 2 Fl (RhA)
Cod y Sefydliad: G53
Lleoliad: Wrecsam
Mae'r rhaglen MRes Ymchwil Gwyddorau Biofeddygol Cymhwysol wedi cael ei chynllunio at raddedigion biofeddygol, meddygol a gwyddorau bywyd sydd am gychwyn ar radd ymchwil sy'n canolbwyntio ar iechyd a chlefydau dynol. Gan hynny, mae'n arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn broffesiynol, a gymeradwyir yn allanol gan y Sefydliad Gwyddor Biofeddygol (IBMS).
Mae'r rhaglen hon yn arfogi graddedigion â'r sgiliau a'r wybodaeth bwnc-benodol sydd eu hangen i ddilyn gyrfa seiliedig ar ymchwil mewn Biofeddygaeth academaidd. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ymchwil glinigol seiliedig ar waith mewn labordai ac mae'n darparu hyfforddiant delfrydol i fyfyrwyr sydd am weithio yn y diwydiant, neu sy'n dymuno symud ymlaen i raglen PhD, neu sydd ond yn dymuno ymgymryd â phrosiect ymchwil sylweddol ar lefel gradd Meistr.
