GDPR Cookie Consent by Free Privacy Policy

Edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau israddedig i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig

WGU Logo
WGU ten years

BA (Anrh) Gofal Plant Therapiwtig blwyddyn atodol

Gofal Plant Therapiwtig blwyddyn atodol

hyblyg

addysgwyd y cwrs arlein rhan fwyaf


arbenigol

arbenigwch mewn pwnc gradd prin


ehangwch

eich cymwyster FdA


Côd UCAS: N/A

BL Mynediad: 2019 2020

Tariff UCAS:

Hyd y Cwrs: 1 Fl (RhA)

Cod y Sefydliad: G53

Lleoliad: Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Cynlluniwyd ein cyrsiau arloesol ar gyfer y rhai sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli gyda phlant sy’n delio â thrawma. Gwella eich rhagolygon gyrfa drwy arbenigo yn y maes pwnc unigryw hwn.

 

Mae'r cwrs arbenigol yn rhoi cipolwg hanfodol i drawma plentyndod a thwf ôl-drawmatig ac yn sicrhau bod y rhai sy'n gweithio gyda'r plant mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn cael eu hyfforddi i'r safon uchaf. Mae'r cwrs yn ymgorffori arfer gorau yn y sector ac yn canolbwyntio ar feysydd allweddol a fydd yn eich galluogi i fod yn arbenigwr gweithgar.

 

Bob blwyddyn mae tîm a myfyrwyr y rhaglen yn ymuno â'r Consortiwm ar gyfer Cymunedau Therapiwtig i gyflwyno cynhadledd cyffrous ac arloesol, a gefnogir gan Fforwm Gofal Cymru a noddwyd gan sefydliadau blaenllaw ym myd gofal plant. Yn y modd hwn mae gan fyfyrwyr ar y rhaglen hon gyfleoedd i ryngweithio â chynrychiolwyr blaenllaw cenedlaethol a rhyngwladol o ymarfer ac ymchwil o fewn y sector Gofal Plant Therapiwtig. Mae myfyrwyr ar y BA (Anrh) Gofal Plant Therapiwtig gyfle i gyflwyno eu posteri ymchwil yn y gynhadledd.

 

367 x 83

rise of 24 places

Top