GDPR Cookie Consent by Free Privacy Policy

Dydy hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais - Edrychwch ar ein cyrsiau ar gyfer mynediad mis Medi 2019.

WGU Logo
WGU ten years
Rhaglen Arweinyddiaeth Gwasanaeth Cyhoeddus

Rhaglen Arweinyddiaeth Gwasanaeth Cyhoeddus

Mae Gwasanaethau Cyhoeddus a'r ffordd cant eu darparu yn newid. Mae galwadau anferth ar adnoddau prin ac mae'r Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn galw am weithio mewn ffordd wahanol a chynaliadwy.

Mae'r newidiadau hyn yn galw am newid yn y ffordd rydym yn arwain gwasanaethau cyhoeddus, ac rydym yn ymhyfrydu yn y ffaith mai Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yw'r cyntaf yng Nghymru i ddarparu rhaglen i gwrdd â'r anghenion hyn.

Sut datblygwyd y rhaglen?

Crëwyd y rhaglen ar y cyd gyda phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a trydydd, gan gynnwys Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Canolfan Arweinyddiaeth, a Do-Well (DU) Cyf. Gofynnom iddynt beth maent eu hangen rŵan ac yn y dyfodol gan eu harweinyddion. Rydym ni wedi cynnwys yr holl elfennau mae'r mudiadau eu hangen a'u rhoi yn y rhaglen.

Y sgiliau mae mudiadau eu hangen yn y dyfodol yw sgiliau trosglwyddadwy. Maent angen pobl sy'n gallu arwain ar draws ffiniau sector, i weithio i geisio datrys problemau ar y cyd nid ar wahân. Bydd myfyrwyr sy'n graddio o'r rhaglen a'r meddylfryd i weithio yn y ffordd hon i daclo problemau cymhleth megis tlodi ac anghydraddoldeb. Mae'r rhaglen yma'n galluogi'r pum ffordd o weithio - sut i weithio gyda'n gilydd yn fwy effeithiol. Bydd myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd i arwain gyda'i gilydd.

 

Ar gyfer pwy mae'r rhaglen?

Nid dim ond ar gyfer rheolwyr lefel uchaf yn y sector gyhoeddus mae'r cwrs. Gall fod i unrhyw un ar unrhyw lefel mewn unrhyw sector, gan gynnwys arweinwyr cymunedol. Bydd y rhaglen yma'n dangos i fyfyrwyr sut i arwain a gwneud newidiadau ym mha bynnag maes maent yn gweithio ynddo.

 

Beth yw'r cyrsiau?

BA (Anrh) Arweinyddiaeth Gwasanaeth Cyhoeddus

MA Arweinyddiaeth Gwasanaeth Cyhoeddus

 

Beth mae pobl yn ei ddweud am y rhaglen?

Yn y sector cyhoeddus oherwydd llymder ac oherwydd adnoddau'n dod yn fwy prin, mae angen go iawn i gael rhaglen bydd yn dod ac arweinwyr y dyfodol ac arweinwyr presennol gyda'i gilydd. Rwy'n meddwl mai gweithio mewn partneriaeth yw'r unig ffordd ymlaen i ddatblygu gwell gwasanaethau cyhoeddus.   Michael Cantwell, Uwch Swyddog Perfformiad, Gwelliant & Phartneriaethau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rwyf wedi bod ar lwyth o gyrsiau yn y gorffennol...rwy'n gwybod y damcaniaeth tu chwith allan...ond mae hwn yn wahanol - nid am ddamcaniaeth yw hwn ond am beth fedrwch chi ei wneud yn ymarferol, a dyna'r gwahaniaeth mawr rwy wedi ei ffeindio.   Jane Davies, Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu, Cyngor Sir y Fflint
Ar ol y rhaglen bydd pobl yn parhau i weithio gyda'i gilydd yn y dyfodol a byddwn yn gweld pobl yn symud ar draws sectorau'n haws - a gall hynny dim ond fod yn beth da, datblygu mwy o sgiliau trosglwyddadwy     Clare Budden, Prif Weithredwr Grŵp, Grŵp Tai Pennaf
Claire Taylor Nina Ruddle

Beth mae Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn golygu?

Mae'r Ddeddf yn mynnu bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn meddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, yn gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac i atal problemau parhaus megis tlodi, anghyfartaledd iechyd a newid hinsawdd.

Mae'r Ddeddf yn unigryw i Gymru ac mae'n denu diddordeb gan wledydd ardraws y byd gan ei fod yn cynnig cyfle enfawr i wneud newid positif, hirdymor i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Mae'r Ddeddf yn cynnwys saith nod llesiant sy'n rhaid i gyrff cyhoeddus weithio tuag at gyflawni:

  •     Cymru lewyrchus
  •     Cymru gydnerth
  •     Cymru sy’n fwy cyfartal
  •     Cymru iachach
  •     Cymru o gymunedau cydlynus
  •     Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  •     Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Mewn cais i gyflawni'r nodau llesiant, mae angen i gyrff cyhoeddus wneud yn siŵr eu bod yn cymryd i ystyriaeth yr effaith gallant gael ar bobl yn byw eu bywydau yng Nghymru wrth iddynt wneud penderfyniadau. Mae disgwyl iddynt ddefnyddio'r Pum Ffordd o Weithio:

  • Hirdymor: y pwysigrwydd o gloriannu anghenion tymor byr gyda'r anghenion i ddiogelu'r gallu i gwrdd anghenion hirdymor
  • Integreiddio: ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o'r nodau llesiant, ar eu hamcanion, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.
  • Cynnwys: pwysigrwydd cynnwys pobl gyda diddordeb mewn cyflawni'r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny'n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal mae'r corff yn ei wasanaethu.
  • Cydweithio: cydweithio gydag unrhyw berson arall (neu wahanol rannau o'r corff ei hun) gall helpu'r corff gwrdd ei amcanion llesiant.
  • Atal: sut gall weithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gwrdd â'u hamcanion.
Rhaglen Arweinyddiaeth Gwasanaethau Cyhoeddus 2
Top