Edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau israddedig i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig - dewch i'n diwrnod agored nesaf i ddarganfod mwy.

WGU Logo
WGU ten years
Diwrnod Agored y BrifysgolWGU UG prospectus

chat to admissions
Iechyd Meddwl a Lles

BSc (Anrh)
Iechyd Meddwl a Lles

Cod UCAS
2C3B
BL Mynediad
2018
2019
Tariff UCAS
112
Hyd y Cwrs
3 BL (LlA)
Cod y Sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Ymgeisiwch

Pam dewis y cwrs hwn?

Amcangyfrifir mai £7.2billion bob blwyddyn (Sefydliad Iechyd Meddwl, 2016) yw cost salwch meddwl i economi Cymru. Cydnabyddir y gall salwch meddwl ddeillio o gyfuniad o ffactorau ar unrhyw bwynt ar draws y rhychwant oedran ac y gall fod ar bobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl angen cefnogaeth gan wahanol wasanaethau megis tai, mentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol ar y cyd â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol statudol. Mae angen felly ymarferwyr gwybodus cymwys i gyflawni ystod o rolau newydd a fydd yn helpu i leihau'r gwarthnod, anfantais ac anghydraddoldeb a brofir gan bobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl ac i weithio o fewn cymunedau i hybu iechyd meddwl a lles meddwl da.

 

Mae gan y rhaglen ddeinamig hon ffocws ar atal ac adfer ac mae'n cyfuno damcaniaeth gyda dysgu seiliedig ar waith er mwyn sicrhau bod ein graddedigion yn gallu mynd ymlaen i yrfaoedd amrywiol yn y sector hwn sy'n datblygu'n barhaus. Mae amrywiaeth o asesiadau ar draws y rhaglen sy'n sicrhau bod gan bob un o'r graddedigion CV cyflawn - bydd myfyrwyr ar y rhaglen yn datblygu ymgyrchoedd gwrth warthnod, yn cynhyrchu taflenni hybu iechyd ac yn rhoi cyflwyniadau, gan adlewyrchu'r sgiliau bywyd go iawn sydd eu hangen ar ddarpar gyflogwyr. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu eu hunanymwybyddiaeth a'u llythrennedd emosiynol, ochr yn ochr â'u sgiliau adfyfyriol a rhyngbersonol - pob un ohonynt yn allweddol i ddod yn ymarferydd effeithiol a chymwys.

 

Mae'r cwrs yn cael ei addysgu ar 2 ddiwrnod llawn yr wythnos ond disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd ag astudiaethau dan gyfarwyddyd ac annibynnol tu allan i'r oriau hyn. Pennir tiwtor personol i bob myfyriwr wrth iddynt gofrestru a fydd yn eu cefnogi drwy gydol eu cyfnod ar y rhaglen. Mae'r adran yn gweithredu polisi drws agored, sy'n golygu nad oes rhaid i fyfyrwyr wneud apwyntiad er mwyn gallu cael mynediad at eu tiwtor personol ond mae croeso iddynt alw heibio. Rydym hefyd yn cynnig system mentor cyfoedion sefydledig, fel y gall myfyrwyr gael gafael ar gymorth gan eu cyd-ddysgwyr.

Mae'r cwrs hefyd ar gael i'w astudio gyda blwyddyn sylfaen BA (Anrh) Iechyd Meddwl a Lles  (Pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen) Cod UCAS:2C4B 

 

367 x 83

Cwrdd a'r Staff


Dyddiau a Nosweithiau Agored

Dyddiau Agored Prifysgol Gogledd Cymru

Dyddiau Pwnc a Dyddiau Blasu

Dyddiau Blasu Prifysgol Gogledd Cymru
Diwrnod Agored y BrifysgolWGU UG prospectus

chat to admissions
Top