MDes Darlunio

datblygwch
eich arddull dylunio a dawn greadigol
gweithiwch
i safonau proffesiynol
briff go iawn
gweithiwch gyda chleientiaid byd real
Côd UCAS: ILMD
BL Mynediad: 2021
Tariff UCAS:
Hyd y Cwrs: 4 BL (LlA)
Cod y Sefydliad: G53
Lleoliad: Wrecsam
Bydd y radd hon mewn Darlunio'n eich helpu i ddatblygu'ch arddull ddarluniadol a'ch dawn am greu delweddau creadigol. Mae'r cwrs yn ymdrin ag agweddau ymarferol, proffesiynol ac artistig gweithio fel darlunydd gyda llais artistig unigol. Bydd y rhaglen yn eich cyfarparu ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiannau creadigol.
Gan weithio gyda staff profiadol sy'n weithgar yn y diwydiant, yddwch chi'n dysgu sut i greu delweddau ysgogol, gweithio i safonau proffesiynol a deall sut mae eich gwaith yn cyd-fynd â'r diwydiant.
Fe'ch cyflwynir i brosesau creadigol proffesiynol ac fe'ch hanogir i ehangu eich galluoedd trwy weithdai a phrosiectau ymarferol. Byddwch yn dysgu sut i ddehongli briff, nodi a datrys problemau, datblygu unigoliaeth greadigol a chynhyrchu portffolio proffesiynol.
Yn ogystal â datblygu sgiliau personol, proffesiynol ac entrepreneuraidd, mae ein rhaglenni'n cyflwyno ystod eang o sgiliau creadigol, o gynhyrchu syniadau a'u cynhyrchu'n dechnegol drwy wneud printiau, rhwymo llyfrau, deunyddiau 3D, darlunio bywyd, cyfryngau traddodiadol a digidol, gyda phwyslais ar dynnu lluniau a datblygu arddull bersonol unigryw.
Mae gwaith celf o ansawdd uchel a llais darluniadol unigryw wrth wraidd y cwrs. Mae cyfleoedd cyson i archwilio eich arddull, defnyddiau eich gwaith, ich defnydd o gyfryngau a thechnoleg drwy gydol y rhaglen.
Mae'r busnes o weithio fel artist ar ei liwt ei hun yn agwedd bwysig ar y cwrs, gan gwmpasu cyngor ymarferol o farchnata a hunan-hyrwyddo i gontractau, anfonebau a gweithio gyda chleientiaid. Mae gweithio ar briffiau byw a chystadlaethau ar gael ac yn cael eu hannog.
Profi Cyn Gwneud Cais!
Ansicr ynglŷn â chychwyn gradd isradd? Gwyddom mai cam mawr yw astudio llawn amser, felly beth am roi cynnig ar ein cyrsiau byr a dosbarthiadau nos? Maent wedi'u teilwra i'ch helpu i ddysgu'r sgiliau allweddol rydych eu hangen i symud ymlaen â gyrfa'ch breuddwydion.
Profi rŵan