Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Yn y flwyddyn gyntaf mae myfyrwyr yn dilyn modiwlau sy'n darparu y sylfaen fydd yn eich galluogi i archwilio meysydd allweddol ar draws y sector iechyd.
Modiwlau
- Cyflwyniad i Iechyd a Lles
- Cyflwyniad i Les Meddwl
- Ffisioleg Gymhwysol
- Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Sgiliau Astudio a Hunan-ddatblygiad
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Yn ystod yr ail flwyddyn, bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i bolisi iechyd a rhagnodi cymdeithasol. Byddwch hefyd yn dysgu am ffactorau sy'n cyfrannu at fyw'n iach i oedran hŷn ac effaith darparu cymorth i bobl a chanddynt anghenion gofal tymor hir.
Cyflwynir profiad dysgu seiliedig ar waith hefyd yn lefel 5.
Modiwlau
- Iechyd a Pholisi Cymdeithasol mewn Lles
- Cwrs Iechyd Ar draws y Bywyd
- Cymorth a Rhoi Grym mewn Iechyd a Lles
- Rhagnodi Cymdeithasol
- Datblygiad Personol a Phroffesiynol
- Dulliau Ymchwil
Blwyddyn 3 (Lefel 6)
Mae ffocws y flwyddyn olaf ar gyflogadwyedd, gyda phynciau fel arweinyddiaeth a menter a gwella a hybu iechyd yn greiddiol i'ch astudiaethau. Byddwch hefyd yn edrych ar heriau byd-eang cyfredol ym maes iechyd a lles, sy'n dod yn fwyfwy ddylanwadol ac arwyddocaol ar draws y ddisgyblaeth.
Mae yna hefyd ail elfen seiliedig ar waith ar y lefel hon, felly cewch chi'r cyfle i brofi gweithio o fewn maes arall o ddiddordeb.
Modiwlau
- Arweinyddiaeth a Menter mewn Iechyd a Lles
- Paratoi am Gyflogaeth
- Gwella a Hybu Iechyd
- Heriau Byd-eang mewn Iechyd a Lles
- Astudiaeth Annibynnol
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
BSc (Anrh) Iechyd y cyhoedd a Lles
Cod UCAS: L510
Y gofynion mynediad cyffredinol i fynd ar y Diploma yw 64 pwynt UCAS yn Lefel A neu gyfatebol – mae hyn yn cynnwys cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch perthnasol. Dylai ymgeiswyr fod yn gallu dangos yr aeddfedrwydd emosiynol a seicolegol sydd eu hangen i weithio gyda phobl sy'n agored i niwed a'r gwydnwch sydd ei angen i ymdopi â gofynion yn y sector hwn.
Yn achos myfyrwyr heb y cymwysterau mynediad safonol, mae'n bosibl y gallwch fynd ar y cwrs hwn os oes gennych brofiad gwaith neu fywyd perthnasol ac yn gallu dangos y gallu i fynd i'r afael â heriau academaidd y rhaglen. Mae'n bosibl y caiff ymgeiswyr sydd heb feddu ar y gofynion mynediad safonol eu gwahodd i gael cyfweliad.
Os nad ydych yn sicr a ydych yn meddu ar y cymwysterau iawn i gael ddod ar y rhaglen, mae croeso ichi gysylltu â thîm y rhaglen.
Gan adlewyrchu'r amrywiaeth o sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr, mae'r cwrs yn defnyddio ystod o strategaethau asesu, gan gynnwys cyflwyniadau, taflenni gwybodaeth a stratagaethau ymgyrchu. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r tîm cefnogi anabledd i sicrhau bod yr asesiadau hefyd yn bodloni anghenion y myfyrwyr.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Caiff myfyrwyr y sgiliau i fynd ymlaen i yrfaoedd mewn meysydd megis gwella iechyd, iechyd y cyhoedd, ymgyrchu, datblygu polisi neu ragnodi cymdeithasol. Mae yna hefyd ystod o gyfleoedd mewn llywodraeth leol, awdurdodau lleol a'r GIG. Gall myfyrwyr hefyd fynd ymlae i astudiaethau ôl-raddedig er mwyn dilyn gyrfaoedd mewn gwaith cymdeithasol, lles seicolegol neu therapïau seiliedig ar y celfyddydau yn dibynnu ar eu diddordebau a'u profiad personol.
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ar gyfer 2020/21, bydd ffioedd hyfforddi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau a Holir yn aml y tudalennau hyn.
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy'n astudio ar ein campws Plas Coch aros ym Mhentref Wrecsam, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.