-
Prif Nodweddion y Cwrs
-
- *1af yng Nghymru a 10fed yn y DU am foddhad cyffredinol ym maes pwnc Sinematig a Ffotograffiaeth (dadansoddiad PGW o ddata NSS 2019 sydd heb ei gyhoeddi).Mae cysylltiadau cryf â diwydiant a chyrff proffesiynol megis Skillset, NAHEMI a nifer o wahanol gymdeithasau animeiddio. Mae ein cynhadledd myfyrwyr Dyfodol Creadigol yn cynnwys ystod eang o siaradwyr gwadd a ddaw o'r diwydiannau creadigol.
- Ceir ymweliadau a chanddynt ffocws ar ddiwydiant er mwyn datblygu mewnwelediad personol i sut mae cwmnïau cyfryngau creadigol yn gweithredu a'r amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael o ran datblygu'ch dyheadau gyrfaol. Mae yna hefyd deithiau astudio eraill i wyliau gemau ac expos gwmnïau cyfrifiadurol.
- Mae gofal bugeiliol cryf o fewn cymuned greadigol gyfeillgar gyda'r pwyslais ar adeiladu tîm a gwaith ar y cyd. Mae'r oriau cyswllt gyda thiwtoriaid yn uchel gyda sta ff brwdfrydig a chefnogol sy'n ymarferwyr wybodus, ymchwil-weithredol.
- Cyfleoedd i gystadlu mewn cystadlaethau celf a dylunio gemau.
- Mae ein Canolfan y Diwydiannau creadigol pwrpasol yn cynnwys cyfleusterau arbenigol, megis ein stiwdio deledu gyda sgrinio gwyrdd, a meddalwedd megis Maya ar gyfer creu gwaith celf ac animeiddio 3D cyfrifiadurol.
-
Yr hyn y byddwch yn ei astudio
-
Mae'r radd hon wedi'i chynllunio yn bennaf ar gyfer y bobl hynny sy'n dymuno dilyn gyrfa yn y diwydiannau celfyddyd gemau a swyddi dylunio cysylltiedig. Mae'n edrych ar bob prif agwedd ar y broses o gynhyrchu celfyddyd gemau, gan dynnu ar eich dychymyg a gan ddefnyddio technegau amrywiol o gysyniadau 2D i gynhyrchiadau 3D ar y sgrîn, gan gynnwys modelu animeiddio cyfrifiadurol 3D a chyfryngau ar sgrin cymysg. Rhoddir pwyslais ar eich datblygiad personol a phroffesiynol, sgiliau cyfathrebu ac entrepreneuraidd er mwyn ichi fod yn barod i fynd i mewn i ddiwydiant amrywiol sy'n newid yn gyflym.
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Modylau
Hanes a Chyd-destun (20 Credyd)
Dylunio Gemau a Rhyngweithio (20 Credyd)
Datblygu asedau gêm (20 Credyd)
Methodoleg y Diwydiant Gemau a Chynhyrchiad Ystwyth (20 Credyd)
Braslunio i Gerflunio (20 Credyd)
Amgylchfydoedd Gemau a Chynllunio Naratif (20 Credyd)
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Modylau
Meddwl yn feirniadol (20 Credyd)
Cymeriadau mewn Cyd-destun (20 Credyd)
Dyfodol Creadigol: Gwneud Bywoliaeth (20 Credyd)
Realiti Rhithwir: dylunio a Chreu Lefelau (20 Credyd)
Effeithiau Gweledol i Gemau Cyfrifiadurol (20 Credyd)
Blwyddyn 3 (Lefel 6)
Modylau
Traethawd Hir (20 Credyd)
Dyfodol Creadigol: Ymarfer Proffesiynol (20 Credyd)
Ymarfer wedi’i Thrafod (40 Credyd)
Prosiect Gradd Celf Gemau (40 Credid)
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
-
Gofynion Mynediad a Gwneud Cais
-
BA (Anrh) Celfyddyd Gêmau
Côd UCAS: 305D
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs hwn yw 112 pwynt tariff UCAS yn TAG Lefel A neu gyfatebol. Caiff cymwysterau Lefel-UG a Sgiliau Allweddol Lefel 3 priodol eu hystyried hefyd.
Mae tîm y rhaglen Celfyddydau Cymhwysol yn croesawu ceisiadau gan unrhywun a all ddangos ymroddiad i'r pwnc a'r potensial i gwblhau eu rhaglen yn llwyddiannus. Gall hyn gael ei gadarnhau drwy ddangos cyflawniadau academaidd priodol neu drwy ddangos bod yr unigolyn yn meddu ar yr wybodaeth a'r gallu sy'n gyfateb i'r cymwysterau academaidd.
Caiff pob ymgeisydd naill ai ei gyfweld yn unigol neu ei wahodd i ddiwrnod ymgeiswyr lle cânt y cyfle i ddangos portffolio o'u gwaith. Mae'n bosibl y caiff profiad ei ystyried hefyd, yn enwedig yn achos yr ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd uchod, yn dibynnu ar faint a dyfnder eu gwybodaeth pwnc. Gofynnir i fyfyrwyr dramor, nad ydynt yn medru mynychu cyfweliad, anfon eu portffoio o waith yn ddigidol er mwyn iddo gael ei ystyried.
Mae tiwtor derbyn yn ystyried pob cais yn unigol. Ystyrir cymwysterau ffurfiol gwahanol, gan gynnwys Arholiadau Uwch Yr Ablwn, Tystysgrif Ymadael Iwerddon, Bagloriaeth Cymru, y Fagloriaeth Ryngwladol, cyrsiau Mynediad, BTEC, VCE, GNVQ, lefelau U ac UG yn ogystal â chymwysterau tramor eraill.
Dilyniant o HND / FdA
Gall ymgeiswyr sydd â chymwysterau HND perthnasol, neu radd sylfaen mewn maes pwnc Celf a Dylunio fynd ymlaen i Lefel 6 rhaglen BA neu MDes yn amodol ar weithdrefnau RP(E)L Prifysgol Glyndŵr.
Os ydych chi wedi astudio mewn gwlad Ewropeaidd arall, edrychwch ar Gofynion Mynediad eich cymhwyster.
Myfyrwyr Rhyngwladol - BA (Anrh) Celfyddyd Gemau
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol ewch i dudalen y gwledydd a dewisiwch eich gwlad i weld y gofynion mynediad academaidd a Saesneg perthnasol.
BA (Anrh) Celfyddyd Gemau (pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)
Cod UCAS: 305G
Ein gofynion mynediad cyffredinol ar gyfer y flwyddyn sylfaen yw 48 pwynt tariff UCAS ond caiff pob cais ei ystyried yn unigol ac rydym yn ystyried profiad gwaith, hyfforddiant/cymwysterau galwedigaethol, yn ogystal â chymhelliant a'r potensial i lwyddo.
-
Asesu ac Addysgu
-
Nid oes arholiadau gosodedig. Mae asesu yn barhaus ac yn ymwneud â phob agwedd ar y rhaglen, gan roi pwyslais a ddiffinnir yn fwy gofalus ar asesu ffurfiannol ac adborth ar eich gwaith cwrs trwy gydol y flwyddyn academaidd. Byddwn yn eich cynghori ar eich lefel o gyrhaeddiad ac yn eich cyfeirio at strategaeth ar gyfer dilyniant pellach wrth i chi cwblhau aseiniadau a modiwlau.
Mae fformatau amrywiol o asesu i annog eich dysgu trwy seminarau grŵp, ymdriniaethau a thiwtorialau. Gall hyn fod trwy ryngweithio grŵp gyda dadansoddiad beirniadol lle byddwch yn cyflwyno ystod o waith, gan gynnwys llyfrau braslunio, taflenni dylunio, gwaith celf gorffenedig, gwaith 3D, gwaith seiliedig ar sgrîn, ffeiliau technegol/cynhyrchu, cyfnodolion, traethodau a chyflwyniadau clyweledol. Mae adolygiadau o waith ar adegau allweddol cyn y Nadolig a chyn y Pasg ac mae hyn yn rhoi amser i chi fyfyrio ar eich cynnydd cyn asesiad diwedd blwyddyn terfynol neu grynodol.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Ar y cwrs hwn mae addysgu a dysgu wedi eu cynllunio i gefnogi myfyrwyr o ystod o gefndiroedd gydag anghenion amrywiol ac i hyrwuddo'r amgylchedd dysgu cefnogol a'r gofal bugeiliol y mae'r Ysgol Celf a Dylunio yn eu darparu. Mae'r amserlenni'n cael ei ddatblygu i helpu methodolegau dysgu, addysgu ac asesu ac i ddarparu adborth clir ac effeithiol i fyfyrwyr. Yr oriau cyswllt yw 16 awr yr wythnos yn Lefel 4, 14 awr yr wythnos yn Lefel 5, a 12 awr yr wythnos yn Lefel 6.
Mae cefnogaeth gadarn i fyfyrwyr a chanddynt wahaniaethau dysgu sydd hefyd yn gallu derbyn cymorth ychwanegol gan gynorthwywyr cefnogi drwy Wasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr.
Mae'r rhaglen hon wedi ei strwythuro i'ch galluogi i weithio mewn dull amlddisgyblaethol, i fod yn hyblyg ac i'ch galluogi i ddatblygu'n unigol. Caiff hyn ei gefnogi gan system tiwtor personol/tiwtorialau sy'n rhoi cyfarwyddyd ichi drwy bob agwedd ar y rhaglen.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
-
Rhagolygon Gyrfaol
-
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Rhoddir pwyslais ar eich datblygiad personol a phroffesiynol, sgiliau cyfathrebu ac entrepreneuraidd, fel eich bod yn gymwys iawn i fynd i mewn i ddiwydiant amrywiol sy'n newid yn gyflym. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio i gwmnïau fel y BBC, Channel 4, S4C, Disney, Molinare, McKinnon & Saunders, Pictures Passion, Asylum Models and Effects, EA Games a Traveller’s Tales, gan gymryd rolau blaenllaw megis uwch ddylunwyr, artistiaid/animeiddwyr VFX, gan weithio ar deitlau megis A Bug’s Life, The Corpse Bride, Frankenweenie a gemau cyfres Harry Potter.
Mae cyfleoedd gyrfaol ym mhob maes celfyddyd gemau gan gynnwys: artistiaid cysyniad, artistiaid byrddau stori, animeiddwyr cynorthwyol, animeiddwyr llawrydd, dylunwyr cymeriadau, artistiaid gemau, datblygwyr rhyngweithiol, artistiaid amgylchedd a chefndir, delweddwyr llawrydd, gwneud modelau, dylunio setiau, celf gwead cyfryngau digidol, paentio digidol, cysodi, goleuo, rigio, effeithiau gweledol ac ôl-gynhyrchu.
Mae'r radd hon hefyd yn eich galluogi i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy a all arwain at amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth. Mae cyfleoedd astudio pellach ar gael ar lefel MDes /PMA neu TAR hefyd.
-
Ffioedd a Chyllid
-
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ar gyfer 2020/21, bydd ffioedd hyfforddi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau a Holir yn aml y tudalennau hyn.
-
Manyleb y Rhaglen
-
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
-
Llety
-
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy'n astudio ar ein campws Plas Coch aros ym Mhentref Wrecsam, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.