Mae’r cwrs yn cwmpasu tair prif elfen Gwyddoniaeth Fforensig, sef: chwilio ac adennill tystiolaeth, dadansoddi biolegol (gan gynnwys DNA), cemegol a ffisegol; a chyflwyno tystiolaeth mewn llys. Mae'r cwrs yn hynod ymarferol sy'n rhoi i fyfyrwyr yr holl sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu gyrfa.
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Mae'r flwyddyn gyntaf yn cyflwyno ystod eang o wybodaeth a sgiliau gwyddonol yn cynnwys mathemateg, ystadegau, bioleg a chemeg ayb. Ar yr un pryd mae'r myfyrwyr hefyd yn cael addysg mewn hanfodion gwyddoniaeth fforensig, cyfiawnder troseddol ac archwilio lleoliadau trosedd. Mae ymarfer dwys yn y labordy a'r tŷ lleoliad trosedd hefyd yn rhan bwysig o'r flwyddyn hon.
Modiwlau
- Bioleg Celloedd
- Cyflwyniad i Gemeg
- Dadansoddi Cemegol mewn Labordy
- Mathemateg ac Ystadegau ar gyfer Gwyddoniaeth
- Tystiolaeth Fforensig a Chyfiawnder Troseddol
- Ymchwilio Lleoliad Trosedd
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Ym adeiladu ar ac yn ehangu'ch portffolio astudio, gan gyflwyno strategaethau pellach o ymchwilio i leoliadau troseddau, sgiliau mewn dadansoddi offerynnol uwch a gwybodaeth gyfoes mewn bioleg fforensig. Pwysleisir profiad ymarferol a methodoleg ymchwil.
Modiwlau
- Bioleg Fforensig
- Dulliau Dadansoddol
- Anatomeg, Patholeg, ac Archwiliad Fforensig Gweddillion Dynol
- Dadansoddi Offerynnol
- Dadansoddi Offerynnol mewn Labordy
- Dulliau Ymchwil: Damcaniaeth ac Ymarfer
Blwyddyn 3 (Lefel 6)
Mae'r flwyddyn olaf yn arwain myfyrwyr i feysydd penodol mewn gwyddoniaeth fforensig, gan gynnwys taffonomeg, cyffuriau a tocsicoleg, a chroesholi yn y llys ayb. Byddwch yn cynnal prosiect ymchwil mewn maes o'ch dewis.
Modiwlau
- Taffonomeg Fforensig
- Cyffuriau a Thocsicoleg
- Gwyddoniaeth yn y Llys
- Ymchwiliad Fforensig i Farwolaethau Torfol
- Prosiect Ymchwil
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
BSc (Anrh) Gwyddoniaeth Fforensig
Cod UCAS: F412
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 112 pwynt tariff UCAS yn TAG lefel A neu gyfatebol.
BSc (Anrh) Gwyddoniaeth Fforensig (4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)
Cod UCAS: 7F28
Ein gofynion mynediad cyffredinol ar gyfer y flwyddyn sylfaen yw 48 pwynt tariff UCAS ond caiff pob cais ei ystyried yn unigol ac rydym yn ystyried profiad gwaith, hyfforddiant/cymwysterau galwedigaethol, yn ogystal â chymhelliant a'r potensial i lwyddo.
Dylai ymgeiswyr rhan-amser wneud cais drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Defnyddir ystod eang o ddulliau asesu; mae’r rhain yn cynnwys ymarferion seiliedig-ar-dasgau, senarios llys a lleoliadau trosedd, cyflwyniadau llafar a phoster, traethodau ac adroddiadau labordy, ac arholiadau ysgrifenedig. Asesir pob modiwl mewn amryw o ddulliau, gan alluogi myfyrwyr i arddangos eu llawn botensial. Bydd traethawd hir yn ffurfio un o rannau terfynol eich asesiad.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Mae'r dulliau addysgu yn cynnwys darlithoedd, sesiynau labordy, seminarau a arweinir gan fyfyrwyr ac ymchwil dan arweiniad.
Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig o'r holl fodiwlau, gan ei fod yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pwnc penodol a'u sgiliau allweddol. Mae dysgu annibynnol yn cael ei hyrwyddo drwy astudio dan arweiniad neu'r adborth a roddir i fyfyrwyr.
Mae'r gwasanaeth Gyrfaoedd a'r Zon ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cynogor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Gall cymhwyster gwyddonol gyda sgiliau trosglwyddadwy (h.y. ymchwil, ysgrifennu adroddiadau, meddwl yn feirniadol, cyfathrebu, datrys problemau, gweithio mewn tîm, rhifedd a sgiliau mathemategol a gwneud penderfyniadau) gyflwyno cyfleoedd gyrfaol mewn sawl maes.
Er enghraifft:
- cyflogwyr gwyddoniaeth fforensig
- addysgu
- dadansoddi mewn labordy
- sector cyhoeddus
- lluoedd arfog
- tollau
- yswiriant
- yr heddlu
- cyfleoedd astudio pellach
Mae gan ein graddedigion hanes cyflogaeth da, gan cael gyrfaoedd llwyddiannus yn yr heddlu, mewn ysgolion/colegau, cwmnïau dadansoddol/cemegol neu'n astudio cyrsiau ôl-raddedig ledled y wlad ac yn rhyngwladol.
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ar gyfer 2019/20, bydd ffioedd hyfforddi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau a Holir yn aml y tudalennau hyn.
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy’n astudio yn ein campws Ffordd Yr Wyddgrug ddewis rhwng Pentref Wrecsam neu Neuadd Snowdon, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.