BSc (Anrh) Rheoli Technoleg Ariannol

arcrededig
gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig
Cyntaf yn y DU
Y radd Technoleg Ariannol gyntaf o'i math
arian
yn y Fframwaith Rhagoriaeth Dysgu
Côd UCAS: N1DM
BL Mynediad: 2020
Tariff UCAS: 112
Hyd y Cwrs: 3 BL (LlA)
Cod y Sefydliad: G53
Lleoliad: Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Ein rhaglen BSc (Anrh) Rheoli Technoleg Ariannol yw'r rhaglen Technoleg Ariannol israddedig gyntaf erioed yn y DU - sy'n rhoi'r cyfle ichi arwain y ffordd yn y diwydiant cyffrous hwn.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch yn dabtlygu sylfaen ragorol mewn egwyddorion busnes cyffredinol fydd yn eich helpu i adfyfyrio ar rôl technoleg a chyllid ym mhob maes busnes. Bydd yr ail a'r drydedd flwyddyn o'r cwrs yn datblygu'ch sgiliau technoleg ariannol mewn meysydd megis marchnadoedd byd-eang, strategaethau buddsoddi, trethi, risg gorfforaethol, rheoli perfformiad, arloesi a chynaliadwyedd.
Mae'r radd yn cael ei chefnogi gan ein grŵp llywio rhagorol i sicrhau bod y rhaglen yn bodloni anghenion y farchnad a thueddiadau rhyngwladol. Mae aelodau o'r grŵp llywio yn cynnwys partneriaid academaidd a masnachol. Maent yn dod o gefndiroedd Uwch Is-Lywyddion cwmnïau buddsoddi byd-eang, Rheolwr cwmni Fortune 500, cwmni recriwtio rhyngwladol ac ysgolheigion gweithredol o 100 o brifysgolion gorau'r byd.

CWRDD Â'R STAFF
Cadwch lle nawr
